Am Blas Menai

Mae Pas Menai mewn lleoliad gwych ar lan afon Menai, yn edrych draw tuag Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Mae dŵr yr afon yn ddelfrydol ar gyfer hwylio, gwyntsyrffio, canŵio a gyrru cychod pŵer ac mae’r môr agored a’r golygfeydd arfordirol hyfryd oll wrth law. Mae Plas Menai hefyd yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri, sy’n cynnig mynyddoedd, clogwyni, afonydd a llynnoedd i ganŵ-wyr a mynyddwyr fel ei gilydd.

Os oes gennych egni ar ôl ar ddiwedd holl weithgareddau’r dydd, mae digon i’w weld a’l wneud yn ystod y gyda’r nos. Cewch ymweld â thref gaerog, hanesyddol Caernarfon, gyda’i cheastell godidog, mynd am dro yn y car o amgylch Eryri neu ddarganfod gogoniannau Ynys Môn. Mae digon o dafarndai a bwytai da wrth law hefyd ym Mangor a Chaernarfon os am noson allan.

Mae’r hyfforddiant a gewch ym Mhlas Menai ymhlith y gorau yn Ewrop.

Wedi’i hadeiladu i bwrpas ar gyfer Chwaraeon Dŵr a Chyfforddusrwydd

Canolfan a adeiladwyd i bwrpas yw Plas Menai, sy’n eiddo i ac yn cael ei rheoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru, ac mae ganddi lety cyfforddus ac offer da.Mae gan y prif gampws preswyl ystafelloedd dau wely sengl ac ychydig o ystafelloedd sengl ac mae gan bob un gawod a thoiled en-suite a chyfleusterau gwneud te. Mae hanner yr ystafelloedd yn edrych draw dros afon Menai am Ynys Môn. Mae gan y ganolfan hefyd dý ar y safle sy’n ddelfrydol i glybiau, ysgolion a grwpiau.

Y Tîm o Staff

Mae’r hyfforddiant a gewch ym Mhlas Menai ymhlith y gorau yn Ewrop. Mae hyfforddwyr y Ganolfan yn hyfforddwyr profiadol gydachymwysterau cenedlaethol ac meant wedi’ dewis oherwydd eu parodrwydd i rannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u brwdfrydedd gyda chi.

Mae ein staff yn meddu ar rai o’r dyfarniadau technegol a hyfforddi gorau sydd ar gael, yn cynnwys Aseswyr Hyfforddiant Dingi y GIF, Hyfforddwyr Rasio y GIF, Hyfforddwyr Cychod Pŵer y GIF, Hyfforddwyr Gwyntsyrffio’r GIF, Arholwyr lotfeistr y GIF, Hyfforddwyr Lefel 5 môr a thir UCP, Arweinwyr Mynydd – Darparwr SPA/ML, Achub Bywyd mewn Dŵr Gwyn, Hyfforddwyr Lefel 5 Mewndirol UCP a Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf.

Hefyd mae gan y Ganolfan dîm gwych o hyfforddwyr tymhorol, achlysurol a gwahodd sydd i gyd yn ymroddedig i’wgweithgareddau.

Diogelwch yn Gyntaf

Mae Plas Menai bob amser wedi sicrhau’r safonau uchaf mewn i’r canllawiau a nodir gan y cyrff rheoli cenedlaethol a Bwrdd Croeso Cymru, mae’r Ganolfan wedi’ithrwyddwdu dan y Rheoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur, trwydded sy’n ofynnol gan unrhyw un sy’n darparu gweithgareddau antur ar gyfer pbi ieuainc dan 18 oed. Dylech deimlo’n gwbl fodlon ein body n monitor ein gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd ac yn asesu’r risg sy’n gysylltiedig â’r holl weithgareddau a gynigir ym Mhlas Menai.