Cyflwyno Gweledigaeth Chwaraeon Cymru

Mae Plas Menai yn un o Ganolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ledled Cymru, drwy annog cyfranogiad mewn Chwaraeon Dŵr a Gweithgareddau Awyr Agored.

Gan weithio’n agos â Chyrff Rheoli Cenedlaethol, mae’r Ganolfan yn gweithredu rhaglen lawn o gyrsiau’n seiliedig ar sgiliau mewn hwylio, gwyntsyrffio, gyrru cychod pŵer, caiacio a morio. Mae’r cyrsiau hyn yn dysgu sylfeini chwaraeon dŵr i oedolion a phobl ifanc, mewn amgylchedd diogel a reolir. Mae’n meithrin hyder ynddyn nhw ac yn dysgu sgiliau fel eu bod yn gallu datblygu ymhellach yn y gamp o’u dewis.

Ymhlith ei weithgareddau, ac er mwyn cefnogi nod Chwaraeon Cymru o gael ‘Pob Plentyn i Wirioni ar Chwaraeon am Oes’, mae Plas Menai yn cynnal amrywiaeth o raglenni wedi’u hanelu’n benodol at gael plant i fod yn egnïol. Mae’r rhain yn cynnwys clybiau hwylio, gwyntsyrffio a chanŵio yn ystod y penwythnos, wythnosau gweithgarwch yn ystod yr haf a dyddiau blasu gweithgareddau. Hefyd, mae’r Ganolfan yn rheoli rhaglenni prysur o gyrsiau gweithgarwch antur i ysgolion a gwersi nofio.

Er mwyn ceisio creu ‘Cenedl o Bencampwyr’, mae gan Chwaraeon Cymru, drwy gyfrwng Plas Menai, enw da unigryw am gyflwyno peth o’r cyfarwyddyd hyfforddi chwaraeon dŵr gorau yn y DU. Hefyd, mae’r Ganolfan yn gweithio â sgwadiau hwylio Cymru a Phrydain Fawr, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr hwylio Safon Byd ac Olympaidd.

Hefyd, mae’r Ganolfan yn darparu swyddfeydd, ystafelloedd cynadledda a chyfleusterau ar gyfer Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol