Jamie Johnson: Prif Hyfforddwr

Mae Jamie wedi bod yn Brif Hyfforddwr ym Mhlas Menai ers deuddeng mlynedd bellach. Yn wyntsyrffiwr brwd, mae’n treulio ei amser yn y swyddfa yn awr, yn goruchwylio’r staff cyfarwyddo a’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen ar y dŵr. Mae ei gymwysterau’n cynnwys:

Hyfforddwr Gwyntsyrffio, Hyfforddwr Cychod Pŵer, Hyfforddwr PWC, Hyfforddwr BWSF, Uwch- Hyfforddwr Dingi, Hyfforddwr Caiac Lefel 3 UCP (Mewndirol) ac Arweinydd Beicio Mynydd.

Hefyd, mae Jamie’n honni ei fod yn un da iawn gyda Theigrod ... sy’n ddefnyddiol.