Rydych chi yma: Hafan » Hyfforddiant Gyrfaol
Ydych chi yn ...
- Gobeithio cael gyrfa mewn chwaraeon dŵr?
- Chwilio am brofiad gwerth chweil yn ystod eich blwyddyn fwlch?
- Breuddwydio am yrfa yn dysgu’r chwaraeon rydych chi wrth eich bodd â nhw?
Gall Hyfforddiant Datblygu Gyrfa Plas Menai eich helpu chi i wireddu eich breuddwydion.
Mae’r Diwydiant Hamdden Morol yn un cyffrous a deinamig a does dim dau ddiwrnod yr un fath byth!
Mae’r galw am hyfforddwyr wedi cynyddu’n eithriadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwaraeon dŵr yn dod yn fwy a mwy poblogaidd mewn cyrchfannau gwyliau ym mhob cwr o’r byd.
Gall gwaith yn y diwydiant amrywio o weithio fel Hyfforddwr Chwaraeon Dŵr ar draeth yn y Môr Canoldir i weithio fel aelod o Griw ar Iot fawr yn y CaribÎ.
Mae Plas Menai wedi bod yn cynnal Cyrsiau Hyfforddiant Datblygu Gyrfa ers mwy na phum mlynedd ar hugain. Nod y cyrsiau hyn yw dysgu i fyfyrwyr y sgiliau a’r cymwysterau proffesiynol maent eu hangen i dorri i mewn i’r byd chwaraeon dŵr a iotio yn y diwydiant cyffrous hwn
Cymorth a Chyfleoedd Gyrfaol
Mae gan Blas Menai enw da rhagorol ymhlith cyflogwyr am hyfforddi gweithwyr chwaraeon dŵr proffesiynol o galibr uchel ac rydym yn ymroddedig i’ch helpu chi i gael gwaith ar ddiwedd eich cwrs.
Byddwch yn derbyn gwybodaeth a chyfarwyddyd am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i chi yn y DU ac ar hyd a lled y byd.
Rydym hefyd yn gwahodd prif gyflogwyr y byd chwaraeon dŵr i gynnal cyflwyniadau recriwtio a chyfweliadau yn y ganolfan.
Ymhlith y cwmnïau sydd wedi recriwtio myfyrwyr Plas Menai mae: Nielson, Mark Warner, Sunsail, UKSA, PGL, Hollingworth Lake a Canolfan Dwr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.
Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn lawrlwytho Llyfryn.

