Capten Cychod Pŵer Masnachol

Hyd: 2 wythnos

Mae’r cwrs dwys hwn yn darparu ar gyfer unrhyw un sydd eisiau bod yn gapten siarter masnachol. I unrhyw un sy’n dymuno cael gwaith yn gweithredu RIBs mewn ffermydd gwynt oddi ar y lan, mae’r cwrs hwn yn darparu’r cymwysterau sy’n angenrheidiol hefyd.

Yn ystod y cwrs hwn, bydd yn ofynnol i chi fynd drwy’r holl ofynion sy’n angenrheidiol ar gyfer y gymeradwyaeth fasnachol, gyda pheth hyfforddiant cychod pŵer arbenigol a chyngor da gan un o gapteiniaid siarter enwocaf Gogledd Cymru.

Unwaith y byddwch wedi ennill dyfarniad Cychod Pŵer Uwch y GIF gyda Chymeradwyaeth Fasnachol, cewch fod yn gapten ar gwch hyd at 24 metr o hyd a ddefnyddir at ddibenion masnachol. Bydd y pellter y cewch weithredu o’r porthladd yn dibynnu ar eich profiad ac ar god MCA y cwch.

Mae ffi’r cwrs yn cynnwys y llety a’ch bwyd i gyd a hefyd dillad gwarchodol personol, hyfforddiant ac asesiadau.

Profiad Cyn y Cwrs

  • Er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn, mae’n rhaid i chi fod â’r profiad perthnasol. Profiad Cymhwyso
  • Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch profiad (mae naill ai eich llyfr cofnodi neu gofnod o’ch profiad yn dderbyniol)
  • Dylech fod â thystysgrif feddygol ML5 yr MCA wedi’i llofnodi gan eich meddyg cyn mynychu’r cwrs hwn ac mae’n rhaid i chi ddod â hi gyda chi.Tystysgrif Feddygol ML5
  • Lleiafswm oedran: 18 oed

Cymwysterau

  • Goroesi yn y Môr y GIF
  • VHF y GIF
  • Cymorth Cyntaf y GIF
  • Radar y GIF
  • Hyfforddiant Cychod Pŵer Uwch y GIF (yn cynnwys teithio yn y nos)
  • Theori Capten Dydd y GIF
  • Arholiad Cychod Pŵer Uwch y GIF (Cymeradwyaeth Fasnachol)