Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr

Unwaith rydych chi wedi ennill eich cymwysterau, ystyriwch ymgeisio am ein Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr. Mae’r rhaglen hon ar gyfer hyfforddwyr lefel 1 sydd eisiau cael profiad gwaith gwerthfawr yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol.

Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un sydd ag o leiaf un cymhwyster hyfforddi ac mae’n para am gyfnod o chwe mis. Mae’n cynnwys CYFLOG ar ffurf lwfans byw misol a llety a phrydau llawn.

Mae’n gyfle rhagorol i chi weld sut mae canolfan fawr yn gweithredu a byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich hyder a’ch arddull hyfforddi o dan gyfarwyddyd gofalus ein uwch dîm hyfforddi. Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill rhagor o gymwysterau.

Beth mae’n ei gynnwys?

  • CYFLOG ar ffurf lwfans byw misol
  • Llety a phrydau llawn (neu ddibreswyl)
  • Ystod eang o brofiad gwaith mewn gwahanol adrannau yn y ganolfan
  • Cyfleoedd hyfforddi mewn hwylio, gwyntsyrffio a chaiacio
  • Talu ffioedd hyfforddi ac asesu
  • Defnydd o offer hyfforddi arbenigol
  • Defnydd am ddim o gyfleusterau hamdden y ganolfan – y gym, y pwll nofio, y trac beicio mynydd, yr ystafell greigiau

Ymgeisio am y Rhaglen

Rydym yn derbyn pobl ar y rhaglen hon ddwywaith bob blwyddyn; yn y gwanwyn a’r hydref.

Os hoffech chi wneud cais am y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais isod os gwelwch yn dda.

*yn dynodi maes y mae’n rhaid ei lenwi