Mae gan Blas Menai amrywiaeth eang o gyrsiau i’w cynnig. Pa un ai ydych ar y dŵr am y tro cyntaf, eisiau gwella a datblygu eich sgiliau neu ddim ond eisiau rhoi cynnig arni ... mae ein cyrsiau’n cynnig profiad hwyliog ac ysbrydoledig sy’n rhoi llawer o foddhad. Maent hefyd yn sicr o roi blas i chi am oes ar antur!
Byddwch yn profi croeso cynnes ac awyrgylch llawn anogaeth ym Mhlas Menai . Mae’r ganolfan ymhlith y canolfannau gyda’r dewis mwyaf o gyrsiau yn y DG felly waeth beth ydych yn chwilio amdano, rydym yn siwr o fod â’r cwrs addas ar eich cyfer chi.
Rydym yn darparu hyfforddiant, offer a chyfleusterau o’r safon uchaf. Mae cymarebau hyfforddwr / cyfranogwyr isel yn golygu y byddwch hefyd yn mwynhau’r hyfforddiant ar lefel fwy bersonol. Hefyd, byddwch yn cael digon o gymorth i wneud cynnydd y tu hwnt i’r sylfeini gan sicrhau cyfleoedd i ennill dyfarniadau medrusrwydd, tystysgrifau a chymwysterau hyfforddi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r ganolfan yn fuan.

