Hyfforddwr Cychod Pŵer Masnachol

2 Wythnos

Preswyl £1200.00

Di-Breswyl £960.00

Mae’r cwrs dwys hwn yn darparu ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithredu cwch yn fasnachol.

Pa un ai ydych eisiau mynd â phobl ar daith bysgota neu ar deithiau i weld bywyd gwyllt, diben y cwrs yma yw eich tywys drwy bopeth sy’n ofynnol ar gyfer cymeradwyaeth fasnachol, gyda pheth hyfforddiant arbenigol ac awgrymiadau defnyddiol gan un o gapteiniaid siarter mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru.

Mae dyfarniad cychod pŵer uwch y GIF, sydd wedi’i gymeradwyo’n fasnachol, yn eich galluogi i fod yn gapten ar gwch hyd at 24 metr o hyd a ddefnyddir at ddibenion masnachol. Bydd pa mor bell y gallwch weithredu o borthladd yn dibynnu ar eich profiad ac ar god MCA y cwch.

Cymwysterau

  • Theori Capten Dydd y GIF
  • Radar y GIF
  • Goroesi yn y Môr y GIF
  • Cymorth Cyntaf y GIF
  • Radio Amrediad Byr VHF
  • Cychod Pŵer Uwch y GIF (gyda Chymeradwyaeth Fasnachol)

Er mwyn archebu eich lle ar y cwrs hwn, mae’n rhaid i chi fodloni’r profiad cymhwyso a nodir isod.

Profiad Cymhwyso

Rydych angen darparu tystiolaeth am brofiad; mae naill ai cofnod eich cwch neu gofnod o brofiad yn dderbyniol.

Yr amser lleiafswm ar y môr sy’n ofynnol cyn yr Arholiad yw: 2 flynedd o brofiad perthnasol, yn cynnwys peilota yn ystod y nos. Fel canllaw, mae hyn yn cyfateb i:30 diwrnod gyda 2 ddiwrnod fel capten, 800 milltir a 12 o oriau yn ystod y nos.

Os ydych yn meddu ar Dystysgrif Cwblhau Cwrs Cychod Pŵer Uwch y GIF, mae’r amser ar y môr yn cael ei ostwng i 20 diwrnod, deuddydd fel capten, 400 milltir a 12 o oriau yn ystod y nos.

Lawrlwythwch y siart profiad cymhwyso os gwelwch yn dda, am ganllaw i’r profiad fyddwch chi ei angen er mwyn gweithredu mewn categorïau amrywiol o ddŵr.

Defnyddiwch y dyfyniad o MCA MGN 280 (www.mcga.gov.uk) i weld a all eich profiad eich cymhwyso i weithredu mewn gwahanol gategorïau o ddyfroedd.

Dylai’r profiad cymhwyso fod mewn cwch priodol, er enghraifft: os ydych wedi bod yn berchen ar neu’n aelod o griw mewn cwch pleser chwaraeon 8 metr / cwch pysgota, byddai hynny’n caniatáu i chi weithredu cwch masnachol o faint tebyg (fe all fod yn dderbyniol cynyddu’r hyd 3 metr).

Tystysgrif Feddygol ML5: Dylech feddu ar dystysgrif feddygol MLF yr MCA wedi’i harwyddo gan feddyg cyn dechrau’r cwrs (ar gael yng ngwefan MCA).

Lleiafswm Oedran: Dylech fod dros 18 oed.

Sut i archebu

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar y cwrs hwn, os hoffech wybodaeth bellach neu os hoffech drafod y cwrs ymhellach, cwblhewch y ffurflen isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi i’w drafod yn fuan. Fel dewis arall, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964.

Dyddiadau yn y Dyfodol

  • 7 Tachwedd - 20 Tachwedd 2009
  • 13 Chwefror - 26 Chwefror 2010
  • 6 Tachwedd to 19 Tachwedd 2010

Er mwyn symud ymlaen, nodwch y cod isod yn y blwch. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod eich cais yn ddilys, a heb ei greu gan eich cyfrifiadur.