Hyfforddwr Chwaraeon Dŵr Amrywiol

26 Wythnos

Yr Haf Preswyl: £7000.00

Yr Haf Di-breswyl: £5708.00

Y Gaeaf Preswyl: £7800.00 (Yn cynnwys modiwl hyfforddi yn Dahab)

Y Gaeaf Di-breswyl : £6480.00 (Yn cynnwys modiwl hyfforddi yn Dahab)

Y gwreiddiol a’r gorau o hyd!

Hwylio Dingi – Gwyntsyrffio – Caiacio – Morio

Dyma brif gwrs hyfforddi Plas Menai a’r mwyaf dwys. Pa un ai ydych eisiau datblygu gyrfa hirdymor yn y diwydiant chwaraeon dŵr neu eisiau ennill cymwysterau mewn cyfnod byr o amser fel eich bod yn gallu gweithio yn ystod yr haf, mae’r cwrs 26 wythnos hwn yn rhoi’r cychwyn rydych ei angen i chi.

Amcan y cwrs hwn yw i’r myfyrwyr raddio gyda thri chymhwyster hyfforddi lefel mynediad. Ar lefel mynediad, yr hyfforddwyr y mae’r mwyaf o alw amdanynt yw’r rhai gyda chymwysterau niferus. Mae gallu dysgu amrywiaeth o ddisgyblaethau’n rhoi cyfle i gyflogwyr sicrhau hyblygrwydd, ac felly byddwch yn hynod boblogaidd.

Cymwysterau Hyfforddwr Allweddol

  • Hyfforddwr Dingi’r GIF
  • Hyfforddwr Gwyntsyrffio’r GIF
  • Hyfforddwr Caiac Lefel 1 THDG / UCP

Am restr lawn o’r tystysgrifau, y dyfarniadau a’r cymwysterau sy’n agored i chi ar y cwrs hwn, lawrlwythwch y PDF os gwelwch yn dda.

Mae’r cymwysterau a’r sgiliau diogelwch fyddwch chi’n eu dysgu ar y cwrs yn hanfodol ar gyfer dysgu ym mhob canolfan hyfforddi broffesiynol ac ysgol yn y DG ac mewn sawl gwlad dramor.

Er mwyn ennill y cymwysterau, byddwch yn derbyn hyfforddiant dwys gan ein staff hynod gymwys, yn cynnwys hyfforddwyr ac arholwyr sy’n arbenigo yn yr holl chwaraeon dŵr a gynhelir yn y Ganolfan.

Byddwch hefyd yn cael eich annog i ymarfer a gwella eich sgiliau yn eich amser rhydd ac yn cael defnyddio cit y ganolfan, unwaith yr ydych wedi cael eich clirio fel rhywun ‘diogel’ i’w ddefnyddio gan Gyfarwyddwr y Cwrs neu’r Prif Hyfforddwr.

YR HAF Lleoliad Hyfforddi: Gogledd Cymru

Mae cwrs yr haf yn manteisio i’r eithaf ar gael ei gynnal yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn i’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol. Mae’r myfrywyr yn cael gweld yn uniongyrchol sut mae canolfan fawr yn gweithredu a chyda chymaint o aelodau’r cyhoedd yn cael dod i’r Ganolfan, rydym yn darparu digon o gyfleoedd ar gyfer profiad hyfforddi uniongyrchol, dan oruchwyliaeth fanwl.

Mae’r profiad hyfforddi uniongyrchol hwn yn amhrisiadwy wrth feithrin hyder ymhlith y myfyrwyr a’u paratoi ar gyfer gwaith wedi iddynt adael.

Y GAEAF Lleoliad Hyfforddi: Gogledd Cymru a Dahab, Yr Aifft

Mae’r myfyrwyr ar y cwrs gaeaf yn elwa o dreulio pythefnos yn Dahab, Yr Aifft. Mae pythefnos yma’n galluogi i fyfyrwyr ddianc ar ddyddiau byr y gaeaf a mwynhau hyfforddiant sgiliau dwys yn Neilson ar Draeth Coralia yn Dahab, Yr Aifft .

Er bod y ganolfan yn dawelach yn ystod misoedd y gaeaf, rydym yn ceisio sicrhau bod y myfyrwyr ar gwrs y gaeaf yn ennill rhyw faint o brofiad uniongyrchol, ond mae’r cyfleoedd yn fwy cyfyngedig.

Lefel Mynediad

Yn ddelfrydol dylech feddu ar sgiliau sylfaenol –mwy profiadol mewn un neu, os oes modd, dau o’r gweithgareddau. Er enghraifft, dylech allu hwylio cwrs triongl, tacio a starn-ogamu neu rwyfo’n gyfforddus ar ddŵr gwastad.

Sut i archebu

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar y cwrs hwn, os hoffech wybodaeth bellach neu os hoffech drafod y cwrs ymhellach, cwblhewch y ffurflen isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi i’w drafod yn fuan. Fel dewis arall, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964.

Dyddiadau yn y Dyfodol

  • 31 Awst 2009 - 26 Chwefror 2010 (Y Gaeaf)
  • 1 Mawrth 2010 - 27 Awst 2010 (Yr Haf)
  • 30 Awst 2010 - 25 Chwefror 2011 (Y Gaeaf)

Er mwyn symud ymlaen, nodwch y cod isod yn y blwch. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod eich cais yn ddilys, a heb ei greu gan eich cyfrifiadur.