Ymunwch â ni ar ddyfroedd cysgodol Afon Mena ii gymryd eich camau cyntaf ar y dŵr. Byddwch yn ei chael yn hawdd i ddechrau arni ac yn teimlo eich bod wedi cyflawni llawer. Os ydych yn camu am y tro cyntaf ar wyntsyrffiwr, bydd ein hyfforddwyr yn sicrhau eich body n dysgu’r technegau gorau i fwrw iddi gyda chyn lleied ag y bo modd o ffwdan. Byddwn hefyd yn darparu digon o gyngor ynghylch offer, dillad a theory a diogelwch perthnasol.
Unwaith rydych wedi meistroli’r sgiliau sylfaenol, gallwch ymuno â’r byd newydd cyffrous o fachu a hongian wrth i chi ddysgu croesi’r Fenai.
Ar gyfer y rhai mwy profiadol sydd am ffrwyno’r holl bŵer sydd ar gael neu ddatblygu’r newid melys hwnnw, bydd ein hyfforddwyr hwylfwrdd, sydd ymhlith y gorau’n bod, yn defnyddio efelychwyr hwylfwrdd, dadansoddiad fideo ac awgrymiadau safonol i ddatblygu eich sgiliau. Mae gennym amrediad eang o fyrddau Hi-Fly a Starboard i chi eu defnyddio ac rydym yn newid ein rigiau a’n byrddau yn rheolaidd am yr offer diweddaraf ar y farchnad. Os yw’n well gennych, cewch ddod â’ch cit eich hun.
Mae ein cyrsiau’n cynnwys y datblygiadau diweddaraf mewn gwyntsyrffio gan y GIF gan ddefnyddio system hyfforddi Fastfwd wrth fynd i’r afael â bwrlwm gwyntsyrffio. Cefnogir y cynllun gan lyfrau cofnodion, efelychwyr ac amrediad o fyrddau defnyddiwr-gyfeillgar newydd, hawdd mynd arnynt. Diben y dull hwn o weithredu yw eich helpu i wneud cynnydd cyn gynted ag y bod modd. Rydych yn siwr o gael eich hudo!
Ni allwn warantu presenoldebMorus y Gwynt, on dos oes angen byddwn yn cynnig gweithgareddau eraill os bydd yn methu cyrraedd!

