Ysgolion a Cholegau

Mae ein cyrsiau gweithgarwch wedi bod yn boblogaidd gydag ysgolion a cholegau ers i’r ganolfan agor. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein profiad a’n proffesiynoldeb yn sicrhau arhosiad cofiadwy yma i bobl ieuainc o bob oed a gallu.

Mae ein cyfleusterau rhagorol, y staff profiadol a chymwys, yr amrediad eang o offer ynghyd â lleoliadau gweithgarwch gwych i gyd yn cyfrannu at gynnig profiad ysgogol a chofiadwy. Does dim tysteb well i’n llwyddiant wrth gynnal rhaglenni i ysgolion a cholegau na’r ffaith bod ysgolion yn dod yn ôl am ragor flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Antur oes ...

Yn ein canolfan weithgarwch a adeiladwyd i bwrpas, gyda llety ar y safle a chyfleusterau hamdden, gallwn lunio rhaglen arbennig i ddiwallu eich anghenion. Rydym yn cynnig:

  • Cyrsiau aml-weithgarwch
  • Cyrsiau dingi, gwyntsyrffio a chanŵio ar gyfer pob lefel
  • Cyrsiau ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol, TGAU a Lefel ‘A’
  • Cyrsiau ar gyfer gwobr Dug Caeredin
  • Gweithgareddau ar gyfer gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru

Dewis

Dewis yw’r gair allweddol ym Mhlas Menai. Gall y rhaglenni fod yn gyrsiau aml-weithgaredd neu un gweithgaredd yn arwain at ddyfarniadau hyfedredd y cyrff rheoli cenedlaethol. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Hwylio (mewn dingis undyn neu ddwbwl)
  • Iotiau bychain (J80r)
  • Gyrru cychod pŵer
  • Gwyntsyrffio
  • Canŵio
  • Cerdded mynyddoedd
  • Dringo creigiau
  • Cerdded ceunentydd
  • Beicio mynydd
  • Adeiladu rafftiau
  • Adeiladu tîm
  • Cyfeiriannu

Yn gynwysiedig yn eich ymweliad:

  • Llety a phob pryd wedi cyrraedd nes eich bod yn gadael
  • Cyfarwyddyd mewn grwpiau bychain
  • Yr holl ddillad diogelwch a gwarchodol
  • Yr holl offer gweithgarwch
  • Staff profiadol gyda chymwysterau cenedlaethol
  • Athro/arweinydd am ddim am bob 10 myfyriwr
  • Holl gludiant y cwrs
  • Defnydd o holl gyfleusterau’r ganolfan
  • Eich nôl a’ch danfon i orsaf reilffordd Bangor os oes angen
  • Gweithgareddau gyda'r nos

Teithiau Maes

Ers blynyddoedd, mae daeareg gyfoethog a daearyddiaeth ffisegol a dynol ryfeddol Gogledd Orllewin Cymru wedi gwneud Eryri ac Ynys Môn yn lleoliadau poblogaidd ar gyfer teithiau maes. Mae Plas Menai’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer aros ynddi ar gyfer hyn, gyda’r fantais o ystafell ddosbarth ychwanegol a chyfleusterau hamdden.

Dewch draw i’n gweld i ddysgu mwy .. Dyddiau Blasu Am Ddim i Ysgolion

Os ydych yn bwriadu cynnal taith weithgarwch ar gyfer eich ysgol, ein Dyddiau Blasu i Ysgolion yw’r ffordd ddelfrydol o weld drosoch eich hun faint sydd gan Blas Menai i’w gynnig. Mae’r dyddiau hyn am ddim ac yn cynnwys llety am ddim am noson. Cynhelir y diwrnod agored nesaf ar: 16 Hydref 2010

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964 neu drwy e-bost bookings@plasmenai.co.uk