Cookies dangos mwy o

Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.     

Gyda chopaon godidog Eryri’n gefnlen ac Afon Menai’n olygfa hyfryd o’i flaen, mae Plas Menai’n lleoliad ysbrydoledig ar gyfer cynnal cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau a rhaglenni meithrin tîm.

Mae gennym ni amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod a dosbarthiadau ar gael, gan gynnwys ystafell cynadleddau fideo. Mae gan yr holl ystafelloedd cyfarfod systemau sain a gweledol integredig sy’n gallu cysylltu’n uniongyrchol â gliniaduron a thabledi. Mae ein hystafell fwyaf yn dal hyd at 100 o bobl yn steil theatr. 

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau arlwyo arbennig, gyda dewis o luniaeth ysgafn, cinio bwffe neu brydau poeth yn addas i bob cyllideb ac i unrhyw ofynion arbennig o ran deiet.  

Digwyddiadau Corfforaethol a Meithrin Tîm

Cysylltwch â’n cydlynydd cynadleddau gydag unrhyw ymholiadau - Jane Parry ar jane.parry@sport.wales neu ffoniwch 01248 673 944

← Yn ôl