Cynadleddau

Mewn lleoliad rhagorol rhwng y mynydd a’r môr ar lan Afon Menai, mae Plas Menai mewn llecyn delfrydol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau. Mae gan yr adeilad, sydd wedi ennill sawl gwobr, gyfleusterau arbennig iawn a bydd ein staff parod eu cymorth yn sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.





Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion, yn cynnwys:

  • Ystafelloedd cynhadledd yn cynnwys
  • Ystafell Oakes gyda seddau i hyd at 80 o gynadleddwyr
  • Ystafell Eryri gyda seddau i hyd at 40 o gynadleddwyr
  • Ystafell Cynadleddau Fideo
  • Ystafelloedd a gofod ategol
  • Lefel mesanîn
  • Defnydd am ddim o’r rhyngrwyd a chyfleuster di-wifr
  • Cyfleusterau llungopïo
  • Byrddau gwyn a fflipsiartiau
  • Taflunyddion ar y nenfwd ar gyfer cysylltu â gliniaduron ar gyfer cyflwyniadau
  • Te, coffi a bisgedi
  • Bwffe poeth ac oer
  • Prydau wedi’u coginio
  • Lolfa gyfforddus
  • Bar

Cynadleddau Preswyl

Os ydych yn ystyried cynnal cynhadledd breswyl, mae gan y ganolfan hefyd ystafelloedd gwely sengl a dau wely sengl cyfforddus gydag en-suite ac mae pob un yn cynnig cyfleusterau gwneud te a choffi a theledu sgrîn fflat. 

Cynadleddau Adeiladu Tîm

Os ydych yn ystyried ychwanegu dimensiwn pellach at eich cynhadledd neu eich digwyddiad, gallwn hefyd gynnig amrywiaeth eang o opsiynau adeiladu tîm, egnïol a gweithgareddau fel:

  • Cwrs rhaffau isel
  • Naid ffydd
  • Cyfeiriannu
  • Adeiladu tîm a datrys problemau ar dir y ganolfan
  • Adeiladu rafft
  • Canŵio
  • Hwylio mewn iotiau bychain (cychod cîl)

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r cyfleusterau cynhadledd, cysylltwch â’n cydlynydd cynadleddau ar 01248 670 964.