Cyrsiau

Mae Plas Menai yn cynnig amrywiaeth enfawr o weithgareddau a chyrsiau. Pa un ai ydych ar y dŵr am y tro cyntaf, eisiau gwella a datblygu eich sgiliau neu ddim ond eisiau rhoi cynnig arni ... mae ein cyrsiau’n cynnig profiad hwyliog ac ysbrydoledig sy’n rhoi llawer o foddhad. Maent hefyd yn sicr o roi blas i chi am oes ar antur!

Byddwch yn profi croeso cynnes ac awyrgylch llawn anogaeth ym Mhlas Menai . Mae’r ganolfan ymhlith y canolfannau gyda’r dewis mwyaf o gyrsiau yn y DG felly waeth beth ydych yn chwilio amdano, rydym yn siwr o fod â’r cwrs addas ar eich cyfer chi.

Rydym yn darparu hyfforddiant, offer a chyfleusterau o’r safon uchaf. Mae cymarebau hyfforddwr / cyfranogwyr isel yn golygu y byddwch hefyd yn mwynhau’r hyfforddiant ar lefel fwy bersonol. Hefyd, byddwch yn cael digon o gymorth i wneud cynnydd y tu hwnt i’r sylfeini gan sicrhau cyfleoedd i ennill dyfarniadau medrusrwydd, tystysgrifau a chymwysterau hyfforddi.

Cwrs yn llawn?

Os yw cwrs a dyddiad arbennig yr hoffech chi ei fynychu yn llawn, cysylltwch â’r swyddfa Archebu yn uniongyrchol ar 01248 673943. ’Fedrwn ni ddim gwarantu unrhyw beth ond fe allwn ni edrych a oes posib archebu lle i chi yn rhywle arall ...

 

Hwylio Dingis

 

Gwyntsyrffio

 

Cychod Pŵer

 
 
 
 

Morio

 

Theori Ar y Lan

 

Caiacio

 
 
 
 

Teithiau Caiac

 

Gwyliau Gweithgarwch i Ieuenctid

 

Hyfforddiant Personol