Mae Gogledd Cymru'n baradwys i rwyfwyr. Rydym wedi'n hamgylchynu gan rai o'r dyfroedd gorau yn y DG ar gyfer rhwyfo. Mae'r traethau syrffio, y clogwyni mor, y rasys llanwol a'r ynysoedd bychain oddi ar Ynys Mon a Phenrhyn Llyn, ac afonydd dŵr gwyn a llynnoedd Eryri, i gyd ar garreg ein drws.

Felly, pa un ai ydych yn rhwyfwr dibrofiad, am ennill cymwysterau hyfforddi neu am ymuno ag un o'n hamrywiaeth helaeth o deithiau, does dim raid i chi chwilio ymhellach am y profiad rhwyfo gorau un.

Rydym yn hyderus y byddwch yn gwneud cynnydd nodedig gyda ni - wedi derbyn hyfforddiant o safon mewn amgylchedd diogel, ymlaciol. Bob blwyddyn rydym yn gwella ein fflyd o gaiacs, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn rhwyfo'r offer mwyaf modern bob amser.

Ar Gyfer Grwpiau: Os hoffech chi i gwrs neu daith benodol gael ei threfnu ar gyfer grŵp, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu chi.

Dyfarniadau Seren UCP: Mae cyrsiau hyfforddi ac asesu dyfarniadau Seren UCP ar gael yn awr ar gais ar gyfer grwpiau o bedwar neu fwy. Cysylltwch â’r adran archebu am ragor o wybodaeth.

Llwybr Caiacio: Am gyfarwyddyd ynghylch pa gwrs sydd fwyaf addas i chi, edrychwch yn ein dogfen Llwybr Caiacio, sy’n amlinellu’r cynnydd mewn perthynas â’r cyrsiau rydym ni’n eu cynnig. Fel dewis arall, os ydych chi dal yn ansicr, cysylltwch â’r ganolfan a siaradwch gydag un o’n hyfforddwyr caiacio ni.

 

  • Dechreuwr
  • Mwy Profiadol
  • Uwch
  • Addysg Hyfforddiant

Cyflwyniad i Chwaraeon Rhwyfo

  • Cwrs 5 niwrnod
  • Rhowch gynnig ar amrywiaeth o wahanol gaiacs
  • Amrywiaeth o leoliadau
  • Hyfforddiant 1-2 Seren BCU
£335.00
Rhagor

Penwythnos Dysgu Caiacio

  • Cyflwyniad delfrydol i chwaraeon rhwyfo
  • Datblygu sgiliau rhwyfo a hyder
  • 1 Seren BCU
£140.00
Rhagor

Dysgu Caiacio Môr

  • Cyflwyniad i gaiacio môr
  • Datblygu eich sgiliau trin cwch
  • Mordwyo sylfaenol, y tywydd a llanwau
  • Does dim angen unrhyw brofiad
£335.00
Rhagor

Penwythnos Dysgu Caiacio Môr

  • Datblygu eich sgiliau trin cwch
  • Lleoliadau cysgodol arfordirol
  • Does dim angen unrhyw brofiad
£140.00
Rhagor

Cyflwyniad i Ddŵr Gwyn

  • Cyflwyniad i ddŵr sy’n symud
  • Datblygu sgiliau rholio
  • Hyfforddiant 2 Seren BCU
  • Caiacs afon cyffredinol
£335.00
Rhagor

Penwythnos Cyflwyniad i Ddŵr Gwyn

  • Hyfforddiant 2 Seren BCU
  • Cyflwyniad i ddŵr sy’n symud
  • Caiacs afon cyffredinol
  • Gwella eich sgiliau rhwyfo
£140.00
Rhagor

Caiacio Môr – Mwy Profiadol

  • Archwilio arfordir Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn
  • Datblygu sgiliau diogelwch ac achub
  • Magu hyder i drin cychod mewn amodau cymedrol
  • Sgiliau Môr 2 Seren a 3 Seren BCU
£335.00
Rhagor

Penwythnos Caiacio Mor – Mwy Profiadol

  • Sgiliau Môr 2 Seren a 3 Seren BCU
  • Datblygu sgiliau rhwyfo môr mewn gwynt a thonnau
  • Rhoi sylw i fordwyo sylfaenol, y tywydd a’r llanwau
  • Lleoliadau arfordirol trawiadol
£140.00
Rhagor

Clinig Rholio Caiac

  • Datblygu eich technegau rholio
  • Pwll nofio cynnes o dan do
  • Defnydd o amrywiaeth o dechnegau
£95.00
Rhagor

Wythnos Surf Dŵr Gwyn, Môr a Syrff

  • Gwella eich sgiliau dŵr gwyn
  • Dod yn rhwyfwr mwy hyderus
  • Hyfforddiant Mewndirol 3 Seren BCU
  • Dŵr gradd 2+ sy’n symud
£335.00
Rhagor

Penwythnos Surf Dŵr Gwyn, Môr a Syrff

  • Amrywiaeth o leoliadau
  • Dŵr gradd 2+ sy’n symud
  • Caiacs afon cyffredinol
£140.00
Rhagor

Wythnos Sgiliau Caiacio Môr

  • Hyfforddiant ac asesiad môr 3 Seren BCU
  • Datblygu eich sgiliau i ymdopi ag amodau mwy heriol
  • Rasys llanwol, rhaeadrau a Phwll Ceris
£335.00
Rhagor

Sgiliau Caiacio Môr

  • Amrywiaeth o leoliadau rhwyfo a sawl her
  • Cynllunio llanwol a mordwyo ymarferol
  • Sgiliau trin cwch mewn dŵr garw.
£140.00
Rhagor

Rasys Llanwol a Geirwyau Môr

  • Dyfroedd heriol
  • Penrhyn Mawr, Ynys Lawd
  • Gwella eich sgiliau trin cwch
£140.00
Rhagor

Hyfforddwyr Lefel 1 y BCU

  • Dod yn hyfforddwr caiacio Lefel 1
  • Cwrs hyfforddi ymarferol
  • Cwrs 5 niwrnod
  • Mae’n cynnwys cwrs undydd mewn Diogelwch ac Achub Sylfaenol.
£335.00
Rhagor