Caiacio Môr – Mwy Profiadol

Hyd: 5 Niwrnod

Amcan y Cwrs: Sgiliau Môr 2 Seren a 3 Seren BCU

Profiad Blaenorol: o leiaf 5 niwrnod yn rhwyfo gyda hyfforddiant

Os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes gennych chi’r sgiliau digonol ar gyfer y cwrs hwn, cysylltwch â’r ganolfan i siarad ag un o’n hyfforddwyr ni.

Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddarganfod amrywiaeth gwych a phleserau cudd caiacio môr tra’n archwilio arfordiroedd trawiadol Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn.

Yn ystod y cwrs wythnos hwn, mae’r pwyslais ar ddatblygu eich sgiliau caiacio presennol er mwyn datblygu hyder i drin cwch mewn gwynt a thonnau. Ymhlith y sesiynau hyfforddi eraill bydd rhwyfo ymlaen, sgiliau diogelwch ac achub, mordwyo syml, ystyried y llanw a’r tywydd, cynllunio taith a sgiliau syrffio o bosibl. Byddwn hefyd yn ceisio treulio peth amser yn ein pwll yn eich cyflwyno chi i dechnegau rholio.

Erbyn diwedd y cwrs dylech fod wedi datblygu dealltwriaeth dda o gaiacio môr diogel a phleserus, dylech fod yn hyderus mewn amodau cymedrol, yn teimlo’n fwy hunangynhaliol yn eich gweithgareddau rhwyfo a bod wedi rhoi sylw i’r holl sgiliau caiacio sy’n rhan o ddyfarniad 2 seren BCU.

Sylwer: nid yw’r cwrs hwn yn addas os ydych chi’n dechrau rhwyfo.

Cit a Dillad

Mae Plas Menai’n darparu’r holl git, offer a dillad gwarchodol personol angenrheidiol, yn cynnwys siwtiau gwlyb, cymhorthion arnofio, cagŵls, helmedi, deciau atal tasgu ac ati, ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai chi eich hun os ydych chi’n dymuno.

 

SYLWER

Mae’r cwrs hwn yn un Di-Breswyl. Os hoffech archebu lle i aros yma, ychwanegwch y pecyn preswyl pump noson o dan ‘Ychwanegiadau Dewisol’ wrth archebu. Mae’r pecyn preswyl yn cynnwys llety llawn am bump noson drwy gydol eich arhosiad.