Cymeradwyaeth Hyfforddwr Cychod Cîl

Hyd: Deuddydd

Amcan y Cwrs: Cymeradwyaeth Hyfforddwr Cychod Cîl

Safonau Lleiafswm: Mae’n rhaid i chi fod yn forwr hyderus mewn cwch cîl gyda phrofiad o hwylio cychod cîl gyda hwyliau trisgwar cymesur ac anghymesur.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddeuddydd ac yn dangos i chi sut i addasu eich sgiliau presennol i ddysgu mewn cychod cîl.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Cychod Cîl J80 y ganolfan ond, yn ystod eich gyrfaoedd fel hyfforddwyr hwylio, efallai y gofynnir i chi ddysgu ar sawl cwch gwahanol, o gychod dydd o fath ‘Drascombe’ i gychod morio llai. Yn gyffredinol, mae yr RYA yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng cychod cîl a chychod morio fel y ffaith bod y cyrsiau morio’n cael eu cynnal ar fwrdd y cwch fel rheol ond ar y cyrsiau cychod cîl, nid yw’r cwch yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llety. Yn gyffredinol, bydd y cychod yn llai na 26 troedfedd.

Mae G14 yn dangos y 4 rhan sy’n perthyn i’r cwrs, gyda tua hanner diwrnod wedi’i neilltuo ar gyfer pob un. Cynhelir y cwrs gan hyfforddwr a bydd mor ymarferol ag y bo modd.

Yn ystod y penwythnos, bydd disgwyl hefyd i’r cyfranogwyr ddangos eu gallu personol eu hunain i hwylio Cychod Cîl. Bydd rhaid i chi ddod â llyfr cofnodion G14 gyda chi a chopi o’ch cymhwyster cymorth cyntaf cyfredol.

Cit a Dillad

Mae Plas Menai yn darparu'r holl git, yr offer a'r dillad gwarchodol personol angenrheidiol, yn cynnwys siwtiau gwlyb, cymhorthion arnofio, cagŵls, dillad dal dŵr, helmedi, harneisiau ac ati, er hynny, mae croeso i chi ddod â'ch cit chi eich hun gyda chi os ydych chi'n dymuno.

 

SYLWER 

Mae’r cwrs hwn yn un Di-Breswyl. Os hoffech archebu lle i aros yma, ychwanegwch y pecyn preswyl ddwy noson o dan ‘Ychwanegiadau Dewisol’ wrth archebu. Mae’r pecyn preswyl yn cynnwys llety llawn am ddwy noson drwy gydol eich arhosiad.