Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddyddiau blasu gweithgareddau i oedolion rhwng misoedd Mai a Medi. Mae’r dyddiau hyn wedi’u trefnu ar Sadyrnau a Suliau. Cynhelir gwahanol weithgareddau ar wahanol ddyddiau, felly beth am gyfuno dau weithgaredd a chael penwythnos llawn bwrlwm?

Mae'r cyrsiau hyn yn agored i unrhyw un 18 oed a hŷn.

  • Antur Awyr Agored

Rhwyf-fyrddio a Gwyntsyrffio

  • Rhoi cynnig ar ddau weithgaredd gwahanol
  • Byrddau llydan a sefydlog
  • Cael hwyl a chadw’n heini
  • Teithio ar hyd Afon Menai
£45.00
Rhagor

Arfordiro

  • Teithio ar draws yr arfordir
  • Dringo creigiau
  • Ogofâu môr
  • Neidio clogwyni
£45.00
Rhagor

Diwrnod Blasu Catamaran

  • Darganfod hwylio catamaran
  • Llawer o hwyl
  • Cyflym a deinamig
£45.00
Rhagor

Diwrnod Blasu Hwylio Dingi

  • Diwrnod blasu hwyliog
  • Cyflwyniad i hwylio
  • Dysgu’r sylfeini
£45.00
Rhagor

Diwrnod Blasu Caiacio

  • Darganfod caiacio
  • Caiacs eistedd ar y top
  • Caiacs twll eistedd caeëdig
£45.00
Rhagor

Diwrnod Blasu Cychod Cîl

  • Hwylio ar Afon Menai
  • Cychod cîl J80
  • Datblygu sgiliau sylfaenol
£45.00
Rhagor