Preswyl Aur

Cwblhewch eich Preswyl Aur ym Mhlas Menai, lle bydd ein hyfforddwyr hynod gymwys a phrofiadol yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael profiad bythgofiadwy.

Mae Plas Menai yn Ddarparwr Gweithgarwch Cymeradwy ar gyfer Cynllun Dyfarnu Dug Caeredin ac rydym yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau pum niwrnod drwy gydol y flwyddyn, a gall unrhyw rai o’r rhain gyfrif at eich dyfarniad Preswyl Aur. Gweler ein hadran Cyrsiau / Gweithgareddau am fanylion llawn am bob un o’n cyrsiau pum niwrnod.

Hefyd rydym yn cynnal dau gwrs pum niwrnod Aml-Weithgarwch Preswyl Aur Agored yn ystod yr haf.

Mae’r wythnosau hyn yn benodol ar gyfer myfyrwyr Gwobr Dug Caeredin a byddwch yn sicr o gyfarfod unigolion tebyg iawn i chi eich hun yn ystod yr wythnos orlawn hon.

Hyfforddiant Teithiau a Theithiau Cymhwyso

Rydym ni hefyd yn cynnal hyfforddiant teithiau a theithiau cymhwyso ar gyfer lefel Aur. Sylwer bod rhaid i chi fod wedi cyrraedd y lefel sgil sy’n ofynnol i dderbyn yr hyfforddiant teithiau ac i fynd ar y teithiau cymhwyso.

  • Gworbr Dug Caeredin

Preswyl Aur Agored

  • Cwrs aml-weithgarwch agored am bum niwrnod
  • Cwrdd â chyfranogwyr eraill Dug Caeredin
  • Llety a phrydau llawn yn gynwysedig
£385.00
Rhagor

Hyfforddiant Taith Caiacio Môr

  • Hyfforddiant teithio am bum niwrnod
  • Yn cynnwys taith ymarfer deuddydd a dwy noson
  • Caiacs Môr
£400.00
Rhagor

Taith Gymhwyso Aur yn Caiacio Môr

  • Taith Gymhwyso Aur
  • Caiacs Môr
  • Gwersylla yn y Gwyllt
£400.00
Rhagor