Ymunwch â ni ar ddyfroedd cysgodol Afon Mena ii gymryd eich camau cyntaf ar y dŵr. Byddwch yn ei chael yn hawdd i ddechrau arni ac yn teimlo eich bod wedi cyflawni llawer. Os ydych yn camu am y tro cyntaf ar wyntsyrffiwr, bydd ein hyfforddwyr yn sicrhau eich body n dysgu’r technegau gorau i fwrw iddi gyda chyn lleied ag y bo modd o ffwdan. Byddwn hefyd yn darparu digon o gyngor ynghylch offer, dillad a theory a diogelwch perthnasol.

Unwaith rydych wedi meistroli’r sgiliau sylfaenol, gallwch ymuno â’r byd newydd cyffrous o fachu a hongian wrth i chi ddysgu croesi’r Fenai.

Ar gyfer y rhai mwy profiadol sydd am ffrwyno’r holl bŵer sydd ar gael neu ddatblygu’r newid melys hwnnw, bydd ein hyfforddwyr hwylfwrdd, sydd ymhlith y gorau’n bod, yn defnyddio efelychwyr hwylfwrdd, dadansoddiad fideo ac awgrymiadau safonol i ddatblygu eich sgiliau. Mae gennym amrediad eang o fyrddau Hi-Fly a Starboard i chi eu defnyddio ac rydym yn newid ein rigiau a’n byrddau yn rheolaidd am yr offer diweddaraf ar y farchnad. Os yw’n well gennych, cewch ddod â’ch cit eich hun.

Ni allwn warantu presenoldebMorus y Gwynt, on dos oes angen byddwn yn cynnig gweithgareddau eraill os bydd yn methu cyrraedd!

  • Dechreuwr
  • Mwy Profiadol
  • Uwch
  • Addysg Hyfforddiant

Dysgu Gwyntsyrffio

  • Cwrs cyflwyniadol am bum niwrnod
  • Cynnydd cyflym ar ein byrddau llydan sefydlog
  • Sesiynau ymarferol ar y dŵr ac mewn efelychwr
  • Cyrraedd Dechrau Gwyntsyrffio yr RYA a thu hwnt
£320.00
Rhagor

Cyflwyniad i Wyntsyrffio

  • Cwrs penwythnos cyflwyniadol
  • Dysgu sylfeini gwyntsyrffio
  • Hwyliau wedi’u rigio’n barod i’ch cael chi ar y dŵr yn gynt
  • Ennill Dechrau Gwyntsyrffio yr RYA
£135.00
Rhagor

Gwyntsyrffio Mwy Profiadol

  • Cwrs Penwythnos
  • Canolraddol DIM PLAENIO yr RYA
  • Cyflwyniad i harnais a strapiau traed
  • Cychwyn ar y traeth a Troi cyflymach
£135.00
Rhagor

Gwyntsyrffio Mwy Profiadol Fyth

  • Cwrs Penwythnos
  • Gwella gwaith harnais
  • Cael eich traed i’r strapiau traed
  • Model hyfforddi Fastfwd yr RYA
£135.00
Rhagor

There are no activities in this category available

Hyfforddwr Dechrau Gwyntsyrffio yr RYA

  • Cymhwyso fel Hyfforddwr Dechrau Gwyntsyrffio yr RYA
  • Cwrs hyfforddi am bum niwrnod
  • Dysgu sut i ddysgu dechreuwyr i wyntsyrffio
  • Ymarferol a dwys gyda pheth gwaith gyda’r nos
£320.00
Rhagor