Cyfle i archwilio arfordir Gogledd Cymru a Môr lwerddon a mwynhau byd hwylio iota r un o’n cyrsiau morio poblogiadd.
Tra’n dysgu neu’n gwella eich sgiliau hwylio, cewch ymweld â chilfachau heb eu difetha, porthladdoedd bychain tawel, derbyn croeso cynnes mewn clybiau hwylio a hwylio ar y môr agored, ymhell o sŵn bywyd bob dydd. Bydd ein cyrsiau hefyd yn rhoi cyfle i chi brofi’r antur sy’n gysylltiedig a llunio llwybr, hwylio yn y nos a dod i olwg tir.
Er mwyn mwynhau morio ar yr arfordir ac oddi ar y lan i’r eithaf, mae’n bwysig eich body n hyderus, yn ddiogel, yn brofiadol ac yn meddu ar sgiliau. Ein hamcan ni yw eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny a’ch galluogi i wneud y gorau o’ch amser ar y môr.
Y Môr: Mae bywyd ar y môr yn newid braf o drefn a chaethiwed bywyd bob dydd. Bydd eich cwrs yn cael ei reoli gan y llanw, y mŵr, y gwynt a’r tywydd. Bydd eich hyfforddwyr yn llunio’r cwrs i sicrhau eich body n gwneud y gorau o’ch amser ar y môr a byddwch yn dysgu sut i weithio’r llanw a chadw llygad ar effeithiau gwynt a thywydd, a fydd yn effeithio ar yr hyn yr ydych yn ei wneud bob dydd a’r milltiroedd a deithir gennych.
- Dechreuwr
- Mwy Profiadol
- Uwch
- Addysg Hyfforddiant
Criw Medrus yr RYA
- Criw Medrus yr RYA neu Gapten Dydd yr RYA
- Hwylio dyfroedd arfordirol trawiadol Gogledd Cymru
- Byw ar fwrdd ein iot 37 troedfedd
- Datblygu eich sgiliau morwriaeth a llywio
Criw Medrus yr RYA/Capten Dydd yr RYA
- Criw Medrus y GIF neu Gapten Dydd yr RYA
- Hwylio dyfroedd arfordirol trawiadol Gogledd Cymru
- Byw ar fwrdd ein iot 37 troedfedd
- Datblygu eich sgiliau morwriaeth a llywio
Penwythnos Morio
- Dianc am y penwythnos ar fwrdd ein iot
- Hwylio dyfroedd arfordirol trawiadol Gogledd Cymru
- Sylfeini trin cwch – gwaith siart a thrin hwyl
Penwythnos Llynges Fach
- Cyflwyniad i hwylio fflyd fechan a chychod siarter
- Yn rhoi sylw i amrywiaeth o sgiliau trin cwch
- Hwylio dyfroedd arfordirol Gogledd Cymru
- Pob ffi harbwr wedi’i thalu
Morio yn y Gaeaf
- Aros yn y ganolfan gyda’r nos
- Hwylio ar fwrdd yr iot yn ystod y dydd
- Datblygu eich sgiliau trin cwch
Capten Dydd Mewn-Un
- Cwrs dwys am naw niwrnod
- Yn cyfuno meysydd llafur Ymarferol a Theori Capten Dydd yr RYA
- Cymhareb myfyrwyr i hyfforddwr isel yn caniatáu hyfforddiant mwy personol
Capten Arfordirol yr RYA
- Ar gyfer Capteiniaid Dydd sy’n barod i symud ymlaen i’r lefel nesaf
- Datblygu technegau capten uwch
- Teithiau oddi ar y lan i Iwerddon neu Ynys Manaw (os yw’r tywydd yn caniatáu)
Arholiad Iotfeistr Arfodirol/Oddi ar y Lan yr RYA
- Asesiad mynediad uniongyrchol
- Tystysgrif Medrusrwydd yr RYA/MCA
- Uchafswm o 4 ymgeisydd
- Gellir ei gymeradwyo’n fasnachol
Hyfforddwr Morio yr RYA
- Cymwys i ddysgu Criw Medrus a Chapten Dydd yr RYA
- Agored i Iotfeistri gyda Chymeradwyaeth Fasnachol
- Cyfuniad o gyfarwyddyd ac asesiad

