Theori Capten Dydd yr RYA

Hyd: 5 Niwrnod

Amcan y Cwrs: Theori Capten Dydd yr RYA

Safonau Lleiafswm: Dim

Mae hwn yn gwrs theori pum niwrnod dwys ar gyfer pobl sy’n ddechreuwyr llwyr neu heb lawer o brofiad o hwylio na mordwyo. Mae’r cwrs yn cyflwyno i chi ddigon o wybodaeth i fordwyo o amgylch dyfroedd cyfarwydd yn ystod y dydd. Mae gwybodaeth sylfaenol am oleuadau’n gynwysedig hefyd, i’ch cyflwyno i forio yn ystod y nos.

 Ymhlith pynciau’r cwrs mae:

  • Sylfeini morwriaeth
  • Hanfodion mordwyo a pheilota o amgylch yr arfordir
  • Gwaith siart
  • Lleoli
  • Plotio cwrs i lywio
  • Rhagolygon y tywydd a meteoroleg
  • Llanwau
  • Rheoliadau ynghylch gwrthdrawiadau
  • Adeiladwaith, rhannau ac offer ar gwch morio
  • Gweithdrefnau argyfwng a diogelwch yn cynnwys larwm trybini, defnydd o ffaglau, harneisiau diogelwch, siacedi achub bywyd a rafftiau bywyd

Bydd raid cwblhau rhyw faint o waith gyda’r nos ac ar ddiwedd y cwrs ceir dau bapur arholiad

Os ydych eisiau gloywi eich mordwyo neu sicrhau cyflwyniad da i’r maes hwn, dyma gwrs delfrydol i chi. Os ydych yn aelod o griw neu’n bartner nad yw’n hwylio nac yn mordwyo fel rheol ond eich bod eisiau dysgu, mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn arbennig o dda.

 

SYLWER

Mae’r cwrs hwn yn un Di-Breswyl. Os hoffech archebu lle i aros yma, ychwanegwch y pecyn preswyl pump noson o dan ‘Ychwanegiadau Dewisol’ wrth archebu. Mae’r pecyn preswyl yn cynnwys llety llawn am bump noson drwy gydol eich arhosiad.