Ymunwch ag un o’n clybiau gweithgarwch yn ystod yr haf i ddarganfod yr hwyl a’r cyffro a geir wrth hwylio neu wyntsyrffio, a gwneud llawer o ffrindiau newydd ar yr un pryd.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi bod ar y dŵr o’r blaen, bydd ein hyfforddwyr hynod gymwys yn sicrhau eich bod chi wedi’ch paratoi yn llwyr ac yn cadw llygad barcud arnoch wrth i chi ddechrau meistroli’r sylfeini.
- Clybiau Gweithgarwch
Clwb Hwylio Iau OnBoard: Oppy/Terra
- Dysgu Hwylio
- Ystod oedran: 8-12 oed
- Bloc o 6 sesiwn
- Nos Fawrth 6.30-8.30pm
Clwb Hwylio Iau OnBoard: Topper
- Dysgu Hwylio
- Ystod oedran: 12-17 oed
- Bloc o 6 sesiwn
- Nos Fawrth 6.30-8.30pm
Clwb Gwyntsyrffio T15 (Dechreuwyr)
• Bloc o 10 sesiwn
• Bore Sadwrn 09.30-12.30
• Rhaid bod yn 8 oed
Clwb Gwyntsyrffio T15 (Mwy Profiadol)
- Sesiwn Mwy Profiadol
- Blociau o 10 sesiwn
- Dydd Sadwrn 12.30-16.30
- Rhaid bod yn 10 oed

