Yr Ystafell Greigiau

Wedi’i hadnewyddu yn 2005, mae’r ystafell greigiau ym Mhlas Menai’n un fechan ond wedi’i ffurfio’n berffaith. Mae’r wal yn darparu amrywiaeth o lwybrau a sialensau, o hawdd i anodd, ac mae’n cynnwys nodwedd a elwir yn ‘Y Simnai’. Defnyddir yr ystafell greigiau’n bennaf ar gyfer ein rhaglenni aml-weithgarwch ac mae’r holl git a’r offer diogelwch yn cael ei ddarparu.