Yr Ardal Leol

Mae Plas Menai mewn lleoliad gwych ar lan Afon Menai, yn edrych draw am Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Mae’r ardal leol o amgylch a’r golygfeydd godidog yn cynnig digon o gyfleoedd am antur pan nad ydych ar y dŵr.

Parc Cenedlaethol Eryri

Dim ond taith fer mewn car yw Parc Cenedlaethol Eryri o Blas Menai. Yn Eryri, ceir 90 o gopaon yn cynnwys Yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae gan y parc cenedlaethol 100 o lynnoedd a 37 milltir o arfordir a thraethau hardd. Mae’r golygfeydd trawiadol a’r amrywiaeth eang iawn o weithgareddau a gynigir yn denu miloedd o bobl sy’n mwynhau’r awyr agored i’r ardal bob blwyddyn.

Ynys Môn

Cysylltir Ynys Môn â’r tir mawr gan ddwy bont hardd, sy’n ymestyn ar draws Afon Menai uwch ben lleoliad byd-enwog y ‘Swellies’, darn cyflym o’r afon gyda dyfroedd llanwol. Gyda chyfoeth o hanes, mae Ynys Môn yn gartref i amrywiaeth o amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth, yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd, sef Castell Biwmares. Gyda thir isel heb lawer o fryniau, mae Ynys Môn yn cynnig digon o gyfleoedd i gerdded a cheir rhai traethau eithriadol hardd ar hyd yr arfordir. Ar gyfer y rhamantus yn eich plith – Ynys Llanddwyn.

Bangor a Chaernarfon

Saif Plas Menai rhwng dinas Prifysgol Bangor a thref hanesyddol Caernarfon. Ceir banciau, swyddfa bost a siopau’r stryd fawr yn y ddau leoliad. Ceir hefyd nifer o barciau adwerthu ar gyrion dinas Bangor. Yr archfarchnad agosaf at Blas Menai yw Morrisons, oddeutu 2 filltir i ffwrdd yng Nghaernarfon. Mae siop Tesco Extra i’w chael ym Mangor a cheir dewis rhagorol o fwytai, caffis a bariau yng Nghaernarfon a Bangor.

Rhestr o dafarndai a mannau bwyta lleol

Bangor

  • Danteithfa 1815
  • Bar y Fat Cat
  • Noodle One
  • Caffi’r Blue Sky
  • Table Table (Parc Menai)

Caernarfon

  • Bistro Stones
  • Bwyty Groegaidd
  • Tafarn y Black Boy
  • Bwyty Cantoneaidd Fu’s
  • Yr Harbwr
  • Caffi Galeri

Ynys Môn

  • Y Bull, Gwesty’r Gazelle – Biwmares
  • Tafarn y Bont, Gwesty Victoria, Liverpool Arms – Porthaethwy
  • Y Ship – Traeth Coch
  • Yr Eryr Gwyn - Rhoscolyn

Yr Ardal o Amgylch

  • Y Garddfon – Y Felinheli,
  • Pete’s Eats, Gallt y Glyn (nosweithiau pizza a pheint) – Llanberis
  • Y Faenol Arms – Pentir

Traethau Lleol

  • Dinas Dinlle - Caernarfon
  • Porth Dafach - Ynys Môn
  • Penmon - Ynys Môn
  • Niwbwrch – Ynys Môn (tâl mynediad o £3.00)
  • Rhosneigr - Ynys Môn