Y Dderbynfa yw canolbwynt Plas Menai. Wedi cyrraedd, mae’n rhaid i bob gwestai ac ymwelydd gofrestru yn y dderbynfa ac yno i’ch croesawu bydd wyneb cyfeillgar. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gofrestru. Mae’r derbynyddion yn cael eu cyflogi i’ch helpu ac felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, peidiwch ag oedi cyn gofyn.
Yn y dderbynfa fe welwch amrywiaeth o daflenni a gwybodaeth am y ganolfan a’r ardal leol. Mae rhagolygon dyddiol y tywydd yn cael eu gosod ar yr hysbysfwrdd bob bore hefyd, ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ganfod sut ddiwrnod sydd o’u blaenau.
Amseroedd Agor y Dderbynfa
Llun i Sul 8.30am – 7.30pm
Maes Parcio Am Ddim
Mae gan Blas Menai ddigon o ofod parcio am ddim ar gael ond cofiwch mai chi sy’n gyfrifol ac yn atebol am eich cerbyd a phopeth sydd ynddo wrth barcio ym Mhlas Menai.

