Pwll Nofio

Gall preswylwyr Plas Menai ddefnyddio’r pwll yn ystod y sesiynau cyhoeddus yn rhad ac am ddim ond sylwer nad yw ar agor ar benwythnosau. Os byddwch yn dymuno manteisio ar y cyfleuster hwn yn ystod yr wythnos, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dangos allwedd eich ystafell i’r cynorthwy-ydd ar ochr y pwll.

Ystadegau’r Pwll

  • Hyd: 17m
  • Lled: 9m
  • Dyfnder: 1m yn y pen bâs, 2m yn y pen dwfn
  • Tymheredd: 29.2˚C
    • Amserlen y Pwll Nofio

      Sesiynau Cyhoeddus

    • Llun i Gwener 12-2pm
    • Llun i Gwener 6-7pm
      • Rhiant a Phlentyn (un oedolyn gydag uchafswm o ddau o blant dan 5 oed)

      • Mawrth 10.45 – 11.45 am
        • Pensiynwyr

        • Mawrth 9.30 – 10. 30am
          • Awr Merched

          • Mercher 11am – 12pm
          • Iau 10am – 11am
            • Dosbarthiadau Nofio Heini (addas ar gyfer nofwyr lefel ganolraddol ac uwch sy’n 16 oed a hŷn)

            • Llun 7-8am
            • Mawrth 7-8am
            • Gwener 7-8am
              • Pris:

              • Oedolion £2.70
              • Plant £2.30
              • Pensiynwyr £2.30
              • Rhiant a Phlentyn £2.30
                • Cynllun Talebau ‘Nofio Am Ddim’: Prynu taleb am 10 sesiwn a dim ond talu am 9Mae’r ganolfan wedi cyflwyno cynllun talebau ‘Nofio Am Ddim’ sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n nofio’n rheolaidd yn y ganolfan. Mae’r talebau’n ddilys am 2 fis o ddyddiad eu prynu a byddant yn cael eu tyllu gan y cynorthwy-ydd wrth ochr y pwll bob tro y byddwch yn eu cyflwyno, nes bod eich sesiynau wedi’u defnyddio i gyd. Cysylltwch â’r dderbynfa i brynu eich taleb.

                  Prisiau’r Talebau (10 sesiwn)

                • Oedolion £24.30
                • Plant £20.70
                • Pensiynwyr £20.70
                  • Gwersi Nofio Hefyd mae’r ganolfan yn gweithredu rhaglen helaeth o wersi nofio i blant (rhaid bod yn 4 oed) ac oedolion ar bob lefel. Fe’ch cynghorir i gysylltu’n uniongyrchol â’n Hyfforddwyr Nofio yn ystod yr amseroedd nofio cyhoeddus am fanylion pellach am argaeledd ac addasrwydd – 01248 670 964 neu 0845 846 0029.