Cyn i chi Gyrraedd

Beth mae ffioedd y cwrs yn eu cynnwys?

Llety mewn ystafelloedd dau wely sengl gyda chawod a thoiled en-suite, neu lety yn y ty. Brecwast, cinio pecyn, cinio, te ac egwyl am goffi. Dillad gwarchodol a diogelwch personol Cyfarwyddyd gan staff sydd wedi'u hyfforddi i safonau cyrff rheoli cenedlaethol Yr holl gludiant angenrheidiol ar gyfer y cwrs Ffioedd tanwydd a marina (wrth forio) Defnydd rhad ac am ddim o’r pwll nofio, yr ystafell greigiau a’r ystafell ffitrwydd.

Nid yw ffioedd y cwrs yn cynnwys?

  • Yswiriant Personol
  • Esgidiau ar gyfer cyrsiau dŵr
  • Llieiniau
  • Pryd gyda'r nos ar y nos Wener

A oes unrhyw Wybodaeth Ymuno?

Gellir lawrlwytho’r nodiadau ymuno o’r wefan. Hefyd, Mae’r wybodaeth yn cyflwyno amlinelliad cyffredinol o’r cwrs i chi, gan nodi’r eitemau hanfodol fyddwch eu hangen gyda chi ac unrhyw awgrymiadau defnyddiol er mwyn i chi allu paratoi ar gyfer eich gweithgareddau.

Cyfarwyddiadau Ymuno

Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno penodol yn manylu'n llawn ynghylch eich cwrs, gan gydnabod derbyn eich archeb neu eich taliad terfynol os mai archeb hwyr ydyw. Dylai'r wybodaeth hyn gynnig braslun o'r cwrs, yr offer angenrheidiol fydd angen arnoch, a cynnigion am unrhyw baratoadau gallwch wneud ar gyfer eich gweithgareddau.

Ddyddiau - Pryd ddylwn i gyrraedd?

Mae'r dyddiadau a gyhoeddir ar gyfer y cyrsiau'n dangos eich union ddyddiau gweithgarwch. Os ydych yn aros yn y ganolfan, dylech gyrraedd y noson gynt. er enghraifft, os mai dyddiad eich cwrs yn y llyfryn yw Ebrill 19-23, dylech gyrraedd gyda'r nos ar y 18.

Cyrsiau Morio Os ydych yn ymuno a chwrs morio ymarferol, sylwer bod dyddiadau eich cwrs yn cynnwys eich noson gyrraedd a bryd hynny byddwch yn cael eich hebrwng at y cwch. Ee, os mai dyddiadau eich cwrs yw Mai 16-22, dylech gyrraedd gyda'r nos ar nos Sul y 16.

Beth fyddwch ei Angen

Rydym yn argymell eich bod yn dod a digon o ddillad cynnes. Mae 'Fibrepile' a dillad isaf thermal yn gallu bod yn fuddsoddiad da iawn.Ymhlith yr eitemau eraill anghenrheidiol:

  • Siwt nofio
  • Llian
  • Esgidaiu ymarfer, esgidiau siwt wlyb neu esgidiau addas eraill
  • Menig neu fenig hwylio arbenigol
  • Het
  • Flasg
  • Bloc haul, sbectol haul
  • Unrhyw eitem arall a nodir yn eich cyfarwyddiadau ymun


Os ydych yn morio, mynydda neu'n gwersylla, dewch â'ch sach gysgu eich hun gyda chi, ac ar gyfer morio, esgidiau glaw (nid rhai gwadnau duon) a thabledi salwch môr.

Ystod Oedran?

Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau ar gyfer y rhai sy'n 14 oed a hŷn. Ni ellir derbyn plant dan 14 oed ar gyrsiau heb fod yn gyrsiau ieuenctid oni bai fod oedolyn gyda hwy. Mae'r cyrsiau ieuenctid ar gyfer plant rhwng 8 ac 16 oed fel a nodir. Yr oedran lleiafswm heb gwmni oedolyn ar gyfer cyrsiau morio yw 16 oed. Ar gyfer cyrsiau cerbydau dŵr personol, yr oedran lleiafswm fel rheol yw 14 oed ac mae'n rhaid wrth oedolyn gyda phawb dan 16 oed ar y cyrsiau cerbydau dŵr personol.

Pa mor Heini sydd Raid i mi Fod?

I fwynhau y cwrs dylech fod yn hyderus yn y dŵr. Nid ydym yn disgwyl i chi nofio'r Sianel ond byddwch yn cael mwy o fudd o'ch cwrs os ydych yn rhesymol heini. Mae'n rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen archebu am unrhyw salwch neu anabledd meddygol. Os ydych yn dioddef o asthma, y clefyd siwgr, epilepsi, penysgafndod, angina neu unrhyw anhwylder arall ar y galon, dylech wirio gyda'ch meddyg cyn gwneud archeb a gallu cyflwyno nodyn meddyg os oes angen.

Yswiriant

Ni chynhwysir yswiriant personol yn ffi'r cwrs. Er eich bod yn y dwylo gorau ym Mhlas Menai, rydym yn eich cynghori i godi yswiriant ychwanegol er mwyn sicrhau tawelwch meddwl i chi eich hun a rhag ofn y bydd raid i chi ganslo eich lle ar y cwrs am resymau y tu hwnt i'ch rheolaeth chi.

Defnyddio eich Offer Eich Hun?

Mae croeso i chi ddod â'ch offer eich hun a'i ddefnyddio tra ym Mhlas Menai, ond sylwer mai eich dewis chi yw hynny ac na allwn ni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled i'ch offer waeth sut caiff ei achosi. Os hoffech le i storio offer drwy gydol eich cwrs, cysylltwch â'r ganolfan flaenllaw i sicrhau fod lle ar gael.

Tydalen 1|2