Onboard

Pwy yw’r Swyddog Onboard?

Leah Collis. Gellir cysylltu â Leah ar 01248 670964 neu ar leah.collis@sportwales.org.uk

Fe hoffwn i anfon grŵp o blant i hwylio. Beth sydd raid i mi ei wneud?

Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cysylltu â’r Swyddog OnBoard, Leah Collis – mae mor hawdd â hynny.

Pa gymorth allaf i ddisgwyl ei gael gan fy Swyddog Datblygu OB lleol?

Byddwn yn eich helpu i wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen i gael y plant allan ar y dŵr a gallwn eich helpu i roi sylw i unrhyw ofynion gan yr AALl, yn cynnwys asesu risg. Gall ein Swyddog OnBoard ddod i’r ysgol a dangos i’r disgyblion fel rhan o wers neu fel rhan o’r gwasanaeth boreol beth mae hwylio a gwyntsyrffio’n ei gynnwys. Ein nod yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ychwanegu hwylio a gwyntsyrffio at gwricwlwm eich ysgol neu eich darpariaeth allgyrsiol.

A fydd unrhyw un yn dod i siarad gyda’r plant am hwylio?

Bydd - gallwn ddod i mewn i’r ysgol a dangos i’r disgyblion beth mae hwylio a gwyntsyrffio’n ei gynnwys.

Oes raid i ni brynu unrhyw offer neu ddillad arbenigol?

Os byddwch yn anfon eich plant i sesiwn OB ym Mhlas Menai neu ganolfan OB debyg, yna bydd y ganolfan yn darparu’r holl gychod, y cit a’r offer diogelwch. Gan ddibynnu ar y ganolfan hyfforddi neu’r clwb, y cyfan sydd raid i’r plant ddod gyda hwy yw tywel!

Beth fydd y plant yn ei ddysgu?

Dysgir y sesiynau ym Mhlas Menai ac mewn canolfannau a chlybiau eraill ledled Gogledd Cymru, gan hyfforddwr y GIF , yn unol â maes llafur cenedlaethol, Cynllun Hwylio Ieuenctid Cenedlaethol y GIF, sy’n darparu i bobl ieuainc gysondeb a chynnydd.