Teithiau Maes

Mae cyfoeth daeareg, daearyddiaeth (dynol a ffisegol), bioleg a hanes Gogledd Orllewin Cymru wedi sicrhau bod yr ardal yn lleoliad poblogaidd ar gyfer teithiau maes ers blynyddoedd lawer.

Mae lleoliad Plas Menai yn ei wneud yn safle canolog delfrydol ar gyfer archwilio ac astudio’r ardal leol, yn cynnwys Eryri, Ynys Môn a threfi hanesyddol Caernarfon a Biwmares, sydd ill dwy â Chestyll sy’n Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Ymhlith y pynciau poblogaidd ar gyfer astudiaethau maes yn yr ardal leol mae:-

  • Prosesau a rheolaeth arfordirol
  • Daearyddiaeth a hanes y chwareli llechi
  • Planhigion ac Anifeiliaid Eryri
  • Tirluniau ac afonydd rhewlifol
  • Cynhyrchu Ynni (niwclear, llanwol, gwynt, trydan-dŵr)
  • Twristiaeth a’r effaith ar yr amgylchedd naturiol

Cyfleusterau

Mae Plas Menai’n cynnig dewis o lety cyfforddus gydag ystafelloedd en-suite gyda dau wely sengl yn y prif gampws neu dai ar y safle gydag ystafelloedd yn cysgu criw. Cynlluniau Llety

Mae gennym ni nifer o ystafelloedd dosbarth o wahanol faint ar gael at eich defnydd, sy’n cynnwys adnoddau fel byrddau gwyn, fflipsiartiau a thaflunyddion.

Ychwanegu Gweithgaredd ...

Gydag amrywiaeth helaeth o weithgareddau ar ddŵr ac ar dir ar gael yn y Ganolfan, ystyriwch ychwanegu hanner diwrnod neu ddiwrnod o weithgareddau at eich rhaglen. Gellir trefnu hyn yn rhwydd gyda’n tîm archebu.

Lleoedd Am Ddim

Rydym yn cynnig un lle am ddim i athro am bob 10 lle a archebir i fyfyrwyr.