Mae Plas Menai’n cynnal Diwrnod Rhagflas Arolygu Am Ddim i Ysgolion ddydd Sadwrn 27eg Chwefror
Mae Plas Menai’n cynnal Diwrnod Rhagflas Arolygu AM DDIM i Ysgolion ddydd Sadwrn 17eg Hydref. Mae gennym fwy na 25 mlynedd o brofiad o drefnu gweithgareddau awyr agored ar gyfer ysgolion a cholegau ac mae ein teithiau preswyl bob amser yn rhai cyffrous a heriol ac yn brofiadau sy’n rhoi llawer iawn o foddhad i ddisgyblion o bob oed.
Yn ystod y dydd, byddwch yn mynd o amgylch y ganolfan a’r cyfleusterau, yn dysgu mwy am yr opsiynau amrywiol sydd ar gael a hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau.
Mae’r diwrnod yn agored i unrhyw un sy’n ystyried dod ag ysgol / grŵp i Blas Menai. Mae croeso i chi ddod gyda chydweithiwr ac mae’r diwrnod yn para o tua 9.30am tan 5pm. Cynhwysir noson o Wely a Brecwast am ddim. Mwy.
Os hoffech fynychu’r diwrnod agored, cysylltwch â’n swyddfa archebion yn uniongyrchol ar 01248 673 943 neu drwy e-bost info@plasmenai.co.uk

