Arddangos y Twincat 15 ym Mhlas Menai
Yn ystod y deng niwrnod nesaf, bydd Plas Menai’n arddangos catamaran Twincat 15 (Fersiwn Sport). Gall unrhyw un sy’n ystyried prynu catamaran ddod draw i’r ganolfan i roi cynnig ar y catamaran cyn prynu. Mae’r arddangosfa’n costio a £120.00am y diwrnod llawn. Gellir adfer y gost hon yn erbyn cost y catamaran wrth brynu. Bydd hyfforddwr wrth law i gynnig cyfarwyddyd ac i sicrhau diogelwch.
Mae’r Twincat 15 safonol yn gatamaran trapîs sengl. Mae’r fersiynau Sport ac Xtrem yn ddau drapîs. Wedi’u gwneud o Twintex, mae modd ailgylchu holl gorff y catamaran. Mae defnyddio Twintex hefyd o gymorth i wneud y corff yn gadarnach tra hefyd yn sicrhau llai o bwysau.
Data Technegol
Hyd:4.6m
Lled:2.3m
Uchder y mast: 6.5m (7.3m fersiwn sport)
Pwysau:125kg (130kg fersiwn sport)
Arwynebedd yr Hwyl:11.4m2
Hwyl drisgwar (dewisol):9m2
Os hoffech roi cynnig ar y Twincat, cysylltwch â’n swyddfa archebu ar 01248 673 943 neu drwy e-bost info@plasmenai.co.uk

