Fe hoffai Plas Menai ddiolch yn fawr i’w staff a’i gwsmeriaid i gyd a dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth eleni ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y dŵr yn 2010.
Amseroedd Agor y Nadolig
Bydd Plas Menai’n cau ddydd Iau y 24ain o Ragfyr ac yn ailagor ddydd Llun y 4ydd o Ragfyr. Gallwch archebu cyrsiau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn a byddant yn cael eu cadarnhau gyda chi pan fyddwn ni’n ailagor fis Ionawr.
Dyddiadau Cyrsiau 2010 ar gael yn awr
Mae dyddiadau holl gyrsiau 2010 ar gael yn awr ar-lein. Hefyd, mae ein llyfryn ag ynddo ddyddiadau’r cyrsiau ar gael. Dylai cwsmeriaid presennol y bas data dderbyn copi yn ystod yr wythnosau nesaf. Os hoffech dderbyn llyfryn, anfonwch e-bost at info@plasmenai.co.uk os gwelwch yn dda gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad post ac fe fyddwn yn anfon llyfryn atoch chi.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y dŵr yn 2010.
Nadolig Llawen

