Diwrnod Agored Am Ddim – Hyfforddiant Gyrfaol

2 Medi 2010

Mae Plas Menai’n cynnal diwrnod agored AM DDIM mewn Hyfforddiant Gyrfaol ddydd Sadwrn 25 Medi 2010

Mynychwch ein diwrnod agored am ddim mewn hyfforddiant gyrfaol i gael gwybodaeth am hyfforddi a gweithio yn y diwydiant chwaraeon dŵr. Yn ystod y dydd, bydd y staff wrth law i ateb eich cwestiynau ac i gynnig cyngor ynghylch gweithio yn yr awyr agored, yn ogystal ag edrych ar y rhaglenni hyfforddi sydd fwyaf addas i chi. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd allan ar y dŵr a gweld rhai o’r mannau hyfforddi rydym yn eu defnyddio. Mwy.

I archebu eich lle, cysylltwch â’r ganolfan ar 01248 670 964 neu drwy e-bost info@plasmenai.co.uk

Mae llety gwely a brecwast ar gael am ddim am noson ar gyfer y rhai sydd ei angen. Os ydych angen llety, rhowch wybod i ni pa noson fyddwch ei angen - y nos Wener neu’r nos Sadwrn.