Polisi Preifatrwydd

Wrth i chi bori drwy’r safle, nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Yr unig ffordd yr ydym yn casglu unrhyw fath o wybodaeth bersonol yw os ydych chi yn ei rhoi i ni.

I archebu cwrs gyda ni, byddwn angen casglu gwybodaeth amdanoch chi i ddelio gyda’ch archeb mor effeithiol ag y bo modd. Gall yr wybodaeth hon gynnwys manylion fel eich enw, eich cyfeiriad a manylion eich cerdyn credyd. Dim ond er mwyn cwblhau eich archeb gyda ni fyddwn ni’n datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon, i ddarparu’r gwasanaethau uchod i chi ac at ddiben y gwaith gweinyddol cysylltiedig ac i sicrhau cyngor proffesiynol.

Efallai bydd Plas Menai yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych chi i gysylltu â chi am eich cwrs.

Hefyd, efallai bydd Plas Menai yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi am fanylion cynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigir gan Blas Menai. Os yw’n well gennych chi i ni beidio â defnyddio eich gwybodaeth chi fel hyn, dylech roi gwybod i ni. 

Ni fydd Plas Menai yn gwerthu nac yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon heb gysylltiad â’n proses Archebu.