Wrth i chi chwilio drwy’r safle, nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Yr unig ffordd y gallwn gasglu unrhyw fath o wybodaeth bersonol amdanoch yw os byddwch yn ei rhoi i ni.
I archebu cwrs gyda ni, bydd raid i ni gasglu gwybodaeth amdanoch i ddelio gyda’ch archeb mor ddidrafferth ag y bo modd. Fe all yr wybodaeth hon gynnwys manylion fel eich enw, eich cyfeiriad a manylion eich cerdyn credyd. Dim ond er mwyn cwblhau eich trafodion gyda ni yr ydym yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd personau, i ddarparu’r gwasanaethau uchod i chi ac er diben y gwaith gweinyddu cysylltiedig ac i sicrhau cyngor proffesiynol.
Gall Plas Menai ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych chi i gysylltu â chi am eich cwrs.
Hefyd, gall Plas Menai ddefnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi gyda manylion am gynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigir gan Blas Menai. Os byddai’n well gennych i ni beidio â defnyddio eich gwybodaeth fel hyn, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.
Ni fydd Plas Menai’n gwerthu nac yn rhoi gwybodaeth bersonol i drydydd personau heb gysylltiad â’r Weithdrefn Archebu.

