Telerau Defnydd

Hypergysylltwch

Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd am gysylltu’n uniongyrchol â’r tudalennau yn y wefan hon.

O’r wefan hon: Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau sydd â dolenni yn y wefan hon. Nid yw’r ffaith bod y dolenni wedi’u cynnwys yn y wefan hon yn golygu ein bod ni yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau dolen.

Gwarchod Rhag Firws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi’r deunydd ym mhob cam o’i gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth rhedeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd sy’n cael ei lawrlwytho oddi ar y Rhyngrwyd. Ni allwn ni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli, tarfu ar na difrodi eich data chi neu eich system gyfrifiadurol chi wrth i chi ddefnyddio deunydd sydd wedi deillio o wefan Plas Menai.

Ymwadiad

Mae’r wybodaeth, y disgrifiadau o’r cyrsiau, yr offer a’r prisiau a ddangosir yn y wefan hon yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a chyn belled ag y gwyddom ni, mae’r holl wybodaeth yn gywir. Er ein bod ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau manwl gywirdeb yr holl wybodaeth o’r fath, a’r prisiau, yn anffodus, mae camgymeriadau’n digwydd weithiau a gall y manylion newid heb rybudd. Ni all Plas Menai na Chyngor Chwaraeon Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, anghysonderau neu hepgoriadau, nac am unrhyw fater cysylltiedig â’r wybodaeth a gyhoeddir yn y wefan hon neu’n codi ohoni. Felly, rydym yn eich cynghori i wirio holl fanylion y cwrs o’ch dewis chi gyda’r Tîm Archebu wrth i chi wneud eich archeb.

Diogelu Data

Wrth i chi chwilio drwy’r safle, nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi. Yr unig ffordd yr ydym yn casglu unrhyw fath o wybodaeth bersonol amdanoch chi yw os ydych chi’n ei rhoi i ni.

I archebu cwrs gyda ni, bydd rhaid i ni gasglu gwybodaeth amdanoch chi er mwyn prosesu eich archeb mor hwylus ag y bo modd. Gall yr wybodaeth hon gynnwys manylion fel eich enw, eich cyfeiriad a manylion eich cerdyn credyd. Dim ond er mwyn cwblhau eich trafodion gyda ni fyddwn ni’n datgelu eich gwybodaeth chi i drydydd personau, i ddarparu’r gwasanaethau uchod i chi, at ddibenion gweinyddol cysylltiedig ac i sicrhau cyngor proffesiynol.

Efallai y bydd Plas Menai’n defnyddio’r wybodaeth a gyflwynir gennych chi i gysylltu â chi ynghylch eich cwrs.

Hefyd, efallai y bydd Plas Menai’n defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi gyda manylion am gynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigir gan Blas Menai. Os nad ydych yn dymuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd hon, dylech roi gwybod i ni am hyn.

Ni fydd Plas Menai yn gwerthu nac yn rhoi eich gwybodaeth bersonol chi i drydydd personau nad oes ganddynt gysylltiad â’n proses Archebu ni.