Rydych chi yma: Hafan » Gwybodaeth » Gwybodaeth am Gyrraedd
Gwybodaeth am Gyrraedd
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai. Dylai’r wybodaeth a ganlyn eich helpu chi i baratoi ar gyfer eich ymweliad â’r Ganolfan, er hynny, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau cyn i chi gyrraedd, cofiwch gysylltu â ni ar 01248 670964 neu drwy e-bost info@plasmenai.co.uk
Maes Parcio Am Ddim
Mae gan y ganolfan ddigonedd o ofod parcio ar gael a byddwch yn gallu parcio eich cerbyd yn y ganolfan drwy gydol eich cyfnod yma. Cewch barcio eich car am ddim ond y perchennog sy’n gyfrifol am unrhyw risg iddo. Cyfarwyddiadau.
Archebion Preswyl
Os ydych chi wedi archebu Pecyn Preswyl, cofiwch y bydd eich llety ar gael o 16.00 ar y diwrnod cyn i’ch cwrs chi ddechrau.
PWYSIG: Os byddwch chi’n cyrraedd y ganolfan ar ôl 11pm, ffoniwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda i gael cod y llety o’r dderbynfa. Ffôn: 01248 670964
Y prydau sy’n gynwysedig yn eich archeb chi yw:-
- Cyrsiau 5 Diwrnod - Llun i Gwener Brecwast a phecyn cinio; Sul i Iau Pryd Gyda’r Nos
- Cyrsiau Deuddydd - Sadwrn a Sul Brecwast a phecyn cinio; Sadwrn Pryd Gyda’r Nos
Cofiwch: Nid oes pryd wedi’i gynnwys ar y nos Wener.
Gweinir brecwast rhwng 8.00am a 8.30am yn yr ystafell fwyta. Cofiwch godi eich pecyn ginio amser brecwast.
Mae llety’r Ganolfan yn llety en suite gyda gwlâu sengl gyda dau wely sengl ym mhob ystafell. Mae teledu ym mhob ystafell a chyfleusterau gwneud te a choffi a chypyrddau dillad yn y wal.
Darperir dillad gwlâu ond mae’n rhaid i chi ddod â’ch tyweli eich hunain oherwydd nid yw’r rhain yn cael eu darparu gan y ganolfan.
Archebion Dibreswyl
Cofiwch ddod â phecyn cinio gyda chi. Os ydych chi wedi anghofio eich cinio pecyn, gallwch brynu un o'r ystafell fwyta.
Cofrestru ar gyfer y Cwrs
Mae’n rhaid i holl gyfranogwyr y cwrs gofrestru yn y dderbynfa wrth gyrraedd ac yno gofynnir i chi lenwi ffurflen gofrestru’r cwrs.
Dylai’r cyfranogwyr i gyd gyfarfod yn y dderbynfa am 09.15 ar fore cyntaf eich cwrs, lle byddwch yn cael briff byr am eich cwrs cyn cael eich cyflwyno i’ch hyfforddwr.
Amserlen Ddyddiol
Yn gyffredinol, mae ein cyrsiau’n dechrau am 09.15 ac yn gorffen tua 17.00. Dylech gyfarfod yn brydlon yn y dderbynfa bob bore, oni bai fod eich hyfforddwr yn dweud yn wahanol wrthych chi.
Dillad ac Offer
Bydd Plas Menai’n darparu’r holl ddillad a’r offer gwarchodol personol angenrheidiol, yn cynnwys siwtiau gwlyb, cymhorthion arnofio, dillad dal dŵr, cagŵls, helmedau, harneisiau ac ati.
Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi:-
- Digon o ddillad cynnes, haenau isaf o thermal, cotiau cnu, tracwisg
- Esgidiau i newid iddynt ar gyfer mynd ar y dŵr (hen esgidiau ymarfer, esgidiau siwt wlyb – Cofiwch: Nid yw esgidiau fel Crocs ac esgidiau eraill tebyg yn addas)
- Dillad nofio a thywel
- Hetiau a menig
- Bloc haul a sbectol haul
- Fflasg/potel ddiod
- 50c i’r loceri (i’w ddychwelyd)
- Offer ymolchi personol a moddion
- Cyfleusterau a Gwasanaethau Hamdden
Gall y preswylwyr yn y ganolfan, ddefnyddio’r pwll nofio am ddim yn ystod sesiynau cyhoeddus. I ddefnyddio’r pwll, mae’n rhaid i chi ddangos allwedd eich ystafell i’r swyddog achub bywyd yn y pwll.
Mae’r ystafell ffitrwydd ar gael i breswylwyr sy’n aelodau o gym ar hyn o bryd. I sicrhau mynediad i’r ystafell ffitrwydd, ewch i’r dderbynfa a dangoswch eich cerdyn. Yna byddwch yn cael cod mynediad yr ystafell ffitrwydd.
Mae ein trac beicio mynydd ar gael i’w ddefnyddio am ddim pan nad yw’n cael ei ddefnyddio gan grŵp, ond rydych angen eich beic a’ch offer diogelwch chi eich hun.
Mae mynediad am ddim i’r rhyngrwyd a chysylltiad di-wifr ar gael yn y mannau cyhoeddus o amgylch y ganolfan.
Atebolrwydd
Nid yw Chwaraeon Cymru’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled i eiddo ymwelwyr a defnyddwyr y ganolfan, oni bai fod hynny wedi’i drefnu ymlaen llaw. Y perchennog sy’n atebol am unrhyw risg i gerbydau neu eiddo personol a adewir yn y Ganolfan.
Yswiriant
Er mwyn i chi fod yn dawel eich meddwl, rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn codi yswiriant canslo rhag ofn na fydd modd i chi fynychu’r cwrs am ryw reswm, neu os bydd rhaid i chi ei adael yn gynnar. Gweler ein Telerau ac Amodau Archebu am ein polisi canslo llawn.
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn codi yswiriant priodol i dalu am golli neu ddifrodi unrhyw eiddo personol tra ydych yn y ganolfan.
Lawrlwythiadau: Gwybodaeth am Gyrraedd

