Cwestiynau a Holir yn Aml

Cwestiynau Cyffredin am Crysiau

  • Beth mae ffioedd y cwrs yn eu cynnwys?

    • Dillad gwarchodol a diogelwch personol Cyfarwyddyd gan staff sydd wedi'u hyfforddi i safonau cyrff rheoli cenedlaethol
    • Yr holl gludiant angenrheidiol ar gyfer y cwrs Ffioedd tanwydd a marina (wrth forio)
    • Defnydd am ddim o’r pwll nofio yn ystod y sesiynau nofio cyhoeddus (Llun i Gwener) a’r ystafell ffitrwydd wrth ddangos cerdyn aelodaeth dilys o gym.

    Os ydych chi wedi ychwanegu Pecyn Preswyl at eich archeb, mae’r canlynol yn gynwysedig yn eich ffioedd hefyd:-
    • Llety mewn ystafelloedd dau wely sengl gyda chawod a thoiled en-suite, neu lety
    yn y ty Brecwast, cinio pecyn, cinio, te ac egwyl am goffi.

  • Nid yw ffioedd y cwrs yn cynnwys?

    • Yswiriant Personol
    • Esgidiau ar gyfer cyrsiau dŵr
    • Llieiniau
    • Pryd gyda'r nos ar y nos Wener

  • Llety ac Ategiadau Ystafelloedd Sengl

    Darperir y llety ar gyfer eich cwrs mewn ystafelloedd sydd â dau wely sengl. Yn ystod cyfnodau prysur, efallai y bydd posibilrwydd y bydd yn ofynnol i chi rannu ystafell, os yn archebu fel unigolyn. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn bob amser yn rhoi cwsmeriaid o’r un rhyw i rannu gyda’i gilydd ac, os yn bosib, pobl o’r un oedran ac ar yr un cwrs. Os nad ydych yn dymuno rhannu, ychwanegwch yr ategiad ystafell sengl at eich archeb os gwelwch yn dda.

  • Pa mor Heini sydd Raid i mi Fod?

    I fwynhau y cwrs dylech fod yn hyderus yn y dŵr. Nid ydym yn disgwyl i chi nofio'r Sianel ond byddwch yn cael mwy o fudd o'ch cwrs os ydych yn rhesymol heini. Mae'n rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen archebu am unrhyw salwch neu anabledd meddygol. Os ydych yn dioddef o asthma, y clefyd siwgr, epilepsi, penysgafndod, angina neu unrhyw anhwylder arall ar y galon, dylech wirio gyda'ch meddyg cyn gwneud archeb a gallu cyflwyno nodyn meddyg os oes angen.

  • A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?

    Mae'r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gyfer y rhai sy'n 14 oed a hŷn, er hynny, gellir derbyn ieuenctid 13 oed ar y cyrsiau nad ydynt yn gyrsiau ieuenctid os oes ganddynt oedolyn gyda hwy. Mae'r cyrsiau ieuenctid ar gyfer ieuenctid rhwng 8 ac 17 oed, neu fel y manylir. Yr oedran lleiafswm heb gwmni oedolyn ar gyfer cyrsiau morio yw 16 oed. Ar gyfer cyrsiau cychod pŵer, gall ieuenctid 12 i 14 oed fynychu os ydynt yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar y cwrs.

  • Ydw i angen yswiriant?

    Ni chynhwysir yswiriant personol yn ffi'r cwrs. Er eich bod yn y dwylo gorau ym Mhlas Menai, rydym yn eich cynghori i godi yswiriant ychwanegol er mwyn sicrhau tawelwch meddwl i chi eich hun a rhag ofn y bydd raid i chi ganslo eich lle ar y cwrs am resymau y tu hwnt i'ch rheolaeth chi.

Cwestiynau Cyffredin am Gyrraedd

  • Archebion Preswyl

    Os ydych chi wedi archebu Pecyn Preswyl, bydd eich llety chi ar gael o 4pm ar y diwrnod cyn i’ch cwrs chi ddechrau. PWYSIG: Os byddwch chi’n cyrraedd y ganolfan ar ôl 11pm, ffoniwch ymlaen llaw i gael cod y llety gan aelod o staff y dderbynfa. Ffôn: 01248 670964

    Gweinir brecwast rhwng 8.00 a 8.30 yn yr ystafell fwyta. Cofiwch estyn eich pecyn bwyta amser brecwast. Dylech gyfarfod yn y dderbynfa am 9.15 ar fore cyntaf eich cwrs, lle byddwch yn cael briff byr am y ganolfan cyn cael eich cyflwyno i’ch hyfforddwr.

  • Archebion Dibreswyl

    Os ydych chi wedi archebu lle ac wedi dewis peidio ag aros yn y Ganolfan, dylech gyrraedd erbyn 9.00am ar fore cyntaf eich cwrs fel bod gennych chi ddigon o amser i gofrestru ar gyfer eich cwrs. Dylech ymgynnull yn y dderbynfa am 9.15, lle byddwch yn cael briff byr am y ganolfan cyn cael eich cyflwyno i’ch hyfforddwr.

    Cofiwch ddod â phecyn bwyd gyda chi i ginio. Os ydych chi wedi talu ymlaen llaw am becyn bwyd, ewch i’r ystafell fwyta a dangoswch eich derbynneb i’r staff arlwyo. Byddan nhw’n rhoi pecyn bwyd i chi wedyn.

  • Archebion y Gwyliau Gweithgarwch i Ieuenctid

    Os yr ydych yn aros ym Mhlas Menai are eich cwrs, bydd eich rhiant tŷ yn aros i'ch cyfarfod o 5pm ymlaen ar y noson cyntaf. Dewch yn union i'r Dderbynfa wrth gyrraedd lle bydd eich rhiant tŷ yn aros i'ch cyflwyno i'r llety ac amlinellu gweithgareddau pob noson gyda amlinelliad o'r cwrs.

  • Beth sydd raid i mi ddod gyda mi?

    Rydym yn argymell eich bod yn dod a digon o ddillad cynnes. Mae 'Fibrepile' a dillad isaf thermal yn gallu bod yn fuddsoddiad da iawn.Ymhlith yr eitemau eraill anghenrheidiol:
    • Siwt nofio
    • Llian
    • Esgidaiu ymarfer, esgidiau siwt wlyb neu esgidiau addas eraill
    • Menig neu fenig hwylio arbenigol
    • Het
    • Flasg
    • Bloc haul, sbectol haul
    • Unrhyw eitem arall a nodir yn eich cyfarwyddiadau ymun

    Os ydych chi’n morio, cofiwch ddod â’ch sach gysgu eich hun gyda chi ac esgidiau glaw (nid rhai gwadnau duon) a thabledi salwch môr.

    Edrychwch ar fanylion y cyrsiau unigol am wybodaeth benodol.

  • Ddyddiau- Pryd ddylwn i gyrraedd?

    Mae'r dyddiadau a gyhoeddir ar gyfer y cyrsiau'n dangos eich union ddyddiau gweithgarwch. Os ydych yn aros yn y ganolfan, dylech gyrraedd y noson gynt. er enghraifft, os mai dyddiad eich cwrs yn y llyfryn yw Ebrill 19-23, dylech gyrraedd gyda'r nos ar y 18.

    Cyrsiau Morio Mae dyddiadau eich cwrs yn cynnwys y noson y byddwch yn cyrraedd. Ee, os mai dyddiadau eich cwrs yw Mai 16-21, dylech gyrraedd gyda’r nos ar yr 16eg mewn pryd i gyfarfod eich hyfforddwr am 8pm.

  • A oes unrhyw Wybodaeth Ymuno?

    Cyhoeddir amlinelliad cyffredinol o’r cyrsiau yn y wefan. Anfonir gwybodaeth am gyrraedd atoch chi gyda’r e-bost yn cadarnhau, , sydd hefyd ar gael yn y wefan.

  • Defnyddio eich Offer Eich Hun?

    Mae croeso i chi ddod â'ch offer eich hun a'i ddefnyddio tra ym Mhlas Menai, ond sylwer mai eich dewis chi yw hynny ac na allwn ni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled i'ch offer waeth sut caiff ei achosi. Os hoffech le i storio offer drwy gydol eich cwrs, cysylltwch â'r ganolfan flaenllaw i sicrhau fod lle ar gael.

Cwestiynau Cyffredinol

  • Dydw i ddim yn siŵr pa gwrs sydd fwyaf addas i mi. Beth ddylwn i ei wneud?

    Os ydych chi wedi darllen disgrifiadau’r cyrsiau a dal yn ansicr ynghylch pa un sydd fwyaf addas i chi, cysylltwch â’r Ganolfan i siarad ag un o’n hyfforddwyr ni. Mae ein hyfforddwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y dŵr ac felly efallai na fyddant ar gael ar unwaith, ond os byddwch yn gadael neges a’ch manylion cyswllt yn ystod y dydd, bydd rhywun yn eich ffonio chi’n ôl i drafod y mater.

  • Mae arnaf angen canslo fy nghwrs – beth ddylwn i ei wneud?

    Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen ein polisi canslo ni, a amlinellir yn y Telerau ac Amodau Archebu. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan yn uniongyrchol i ganslo eich cwrs a dylech ddeall bod ffioedd canslo’n berthnasol. O’r herwydd, rydym yn argymell bod ein cwsmeriaid i gyd yn codi yswiriant personol i’w gwarchod rhag unrhyw ddigwyddiad anffodus a all eu hatal rhag mynychu eu cwrs.

  • Beth yw eich gweithdrefnau diogelwch?

    Yn ychwanegol at fwynhau a dysgu sgiliau newydd, mae diogelwch yn holl bwysig mewn perthynas â phob un o gyrsiau Plas Menai. Wrth reswm, mae chwaraeon dŵr a gwethgareddau anturus yn beryglus yn ôl eu natur ac mae'n rhaid i gyfranogwyr, rhieni neu warcheidwaid dderbyn bod peryglon yn bodoli a bod ambell glais a briw yn anochel yn ystod yr hwyl a'r sbri a geir wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau cyflym.

    Er mwyn rheoli'r peryglon cystal ag y bo modd, mae gan Plas Menai 'system waith ddiogel' fel a ganlyn: dim ond staff profiadol a chymwys a gyflogir gennym rydym yn darparu amrywiaeth o offer gwarchodol a diogelwch personol o safon er mwyn sicrhau cyfforddusrwydd a diogelwch y rhai sy'n cymryd rhan rydym yn darparu'r offer diweddaraf ar gyfer eich cwrs rydym yn dysgu i argymhellion a chanllawiau cyrff rheoli cenedlaethol, mewn grwpiau bychan mae gennym systemau rheoli a diogelwch cadarn sydd wedi'u harchwylio gan gyrff cymeradwy megis AALA, y GIF a UCP ydym yn cadw'r hawl i addasu neu ganslo gweithgaredd os ydym yn teimlo nad oes modd rheoli'r peryglon sy'n bodoli.