Rydych chi yma: Hafan » Y Ganolfan » Cwrdd â’r Tîm » Hyfforddi » Huw Jones
Huw Jones: Uwch-Hyfforddwr
Gwirionodd Huw ar gaiacio ag yntau ond yn 10 oed, wrth gael ei fagu ar Ynys Môn, ac mae wrth ei fodd gyda’r gamp byth ers hynny. Ers blynyddoedd lawer, mae wedi gweithio fel peiriannydd awyrennau ac athro ysgol, ond daeth yn ôl i Ynys Môn pan roddodd y gorau i hynny er mwyn canolbwyntio ar beth mae wir yn ei fwynhau.
Dechreuodd Huw weithio ym Mhlas Menai yn 2010, gan gyflwyno ein dewis llawn o gyrsiau caiacio a theithiau ac er ei fod wedi treulio amser yn caiacio ym Mhatagonia ac i fyny yng Nghylch yr Arctig, Gogledd Cymru yw ei hoff ardal o hyd ar gyfer gweithio a chwarae.

