Rydych chi yma: Hafan » Y Ganolfan » Cwrdd â’r Tîm » Hyfforddi » John Sheather
John Sheather: Uwch-Hyfforddwr
Mae John wedi gweithio yn y diwydiant hwylio er pan oedd yn 19 oed ac mae ei angerdd dros hwylio cyn gryfed ag erioed. Yn ystod ei yrfa, mae wedi croesi’r Iwerydd bedair gwaith fel aelod o griw ar Long Dal y Stad Amsterdam, mae wedi gweithio ar fwrdd ‘Ocean Spirit’ yn hwylio o amgylch arfordir gorllewinol yr Alban ac mae wedi gweithio yn achlysurol ym Mhlas Menai ers bron i 20 mlynedd.
Mae’n Aseswr Hyfforddwyr Dingi cymwys, yn Hyfforddwr Gwyntsyrffio, Hyfforddwr Cychod Pŵer, Iotfeistr, Hyfforddwr Morio a hefyd yn arolygydd canolfannau’r GIF.

