Gweithgareddau Awyr Agored

Ym Mhlas Menai, gallwch ddewis o blith un o’r ystodau ehangaf o weithgareddau awyr agored yn unrhyw le yn y DU. Gydag amrywiaeth trawiadol o git ac offer a thîm ymroddedig o hyfforddwyr hynod gymwys, profiadol ac angerddol, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylio diogel. Ymhlith yr opsiynau gweithgarwch mae:-

  • Hwylio Dingi
  • Hwylio Catamaran
  • Hwylio Cychod Cîl
  • Gwyntsyrffio
  • Caiacio
  • Cychod Agored
  • Caiacs Eistedd-ar-y-Top
  • Adeiladu Rafft
  • Cerdded Ceunentydd
  • Dringo
  • Beicio Mynydd
  • Corff Fyrddio
  • Arfordiro
  • Cyfeiriannu
  • Gyrru Cychod Pŵer
  • Gemau Adeiladu Tîm
  • Astudiaethau Morol

Ar agor drwy gydol y flwyddyn

Gydag amrywiaeth mor eang o weithgareddau dŵr a thir ar gael, gallwch gynllunio ymweliad â’r ganolfan ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r rhaglenni’n canolbwyntio mwy ar weithgareddau tir, er hynny, ceir opsiwn bob amser i fynd allan ar y dŵr i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel gyrru cychod pŵer, hwylio cychod cîl a chychod agored.

Rhaglenni Arbennig

Wrth archebu, bydd ein tîm yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu rhaglen sy’n diwallu eich gofynion. Gall y rhain gynnwys gweithgareddau gyda’r nos a rhaglenni sy’n diwallu gofynion y cwricwlwm cenedlaethol. Blas ar Raglenni'r Cyrsiau

Hyfforddwr Grŵp

Drwy gydol eich cyfnod gyda ni, bydd un aelod allweddol o’r tîm hyfforddi yn gyfrifol am eich grŵp chi ac yn goruchwylio eich ymweliad cyfan.

Llety

Ceir dau opsiwn o ran llety, naill ai ystafelloedd en-suite gyda dau wely sengl yn y prif gampws neu mewn llety yn ein tai ar y safle gydag ystafelloedd i griw. Mae’r dewis o lety’n dibynnu ar beth sydd ar gael. Cynlluniau Llety

Achredu a Diogelwch

Mae Plas Menai wedi bod yn cynnal rhaglenni gweithgarwch ar gyfer grwpiau ysgol ers 1983. Rydym yn cadw at y safonau diogelwch uchaf ac mae ein gweithdrefnau’n rhai llym. Fel y byddech yn disgwyl, mae ein hoffer a’n dillad gwarchodol o’r safon uchaf.

Rydym wedi cael ein hachredu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgarwch Antur ac yn cael ein harolygu ganddo, a hefyd y Gymdeithas Iotio Frenhinol ac Undeb Canŵio Prydain.

Rydym yn deall bod athrawon, awdurdodau addysg a rhieni angen sicrwydd a ddiogelwch i gefnogi eu taith. Mae ein Pecyn Iechyd a Diogelwchar gael i’w lawrlwytho ac rydym yn fwy na pharod i’ch helpu chi gydag unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi.

Ceir rhagor o fanylion am hyn yn Achredu a Diogelwch

Lleoedd Am Ddim

Rydym yn cynnig un lle am ddim i athro am bob 10 myfyriwr ar y cwrs.