Cookies dangos mwy o

Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.     

 

Ar y ffordd: Mae’r Ganolfan ar yr A487 rhwng Bangor a Chaernarfon. O ffordd ddeuol yr A55, dilynwch allanfa 10 i gyfeiriad Caernarfon (A487), a dilynwch yr arwyddion brown am Blas Menai, tua 5 milltir.

 

Ar Drên/Bws: Bangor yw’r orsaf agosaf, tua 7 milltir i ffwrdd. Mae tacsis ar gael y tu allan i brif fynedfa’r orsaf. Neu trowch i’r chwith allan o’r orsaf ac mae safle bws ychydig lathenni i fyny ar yr un ochr i’r ffordd. Mae bysus rhifau 5 a 5a yn rhedeg rhwng Bangor a Chaernarfon a byddant yn mynd â chi i safle bws Croesfan Griffiths. Mae’r Ganolfan 5 munud ar droed o’r safle yma.