Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.
ACADEMI AWYR AGORED
Mae Plas Menai yn cynnig dewis eang o cyrsiau hyfforddi proffesiynnol ir dywidiant. Fel Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, mae ein cyfleusterau a'n hadnoddau heb eu hail ac mae ein henw da am ddarparu cyrsiau hyfforddi proffesiynol a hyfforddiant heb ei ail.
I weld ein Pecyn Gwybodaeth Hyfforddiant llawn, cliciwch yma
HYFFORDDIANT ACHUB BYWYD MEWN DŴR
Pwll Ceris yn Afon Menai yw un o’r lleoliadau gorau ar gyfer hyfforddiant achub bywyd mewn dŵr cyflym yn y DU ac ni yw un o’r ychydig lefydd sy’n gallu darparu pecynnau hyfforddiant achub bywyd mewn dŵr cyflym preswyl. MWY
HYFFORDDIANT HYFFORDDWR AWYR AGORED
Rydyn ni wedi bod yn cymhwyso hyfforddwyr chwaraeon dŵr ers dros 30 mlynedd ac mae ein henw da yn y diwydiant yn unigryw. Rydyn ni’n adolygu ac yn addasu ein rhaglenni hyfforddi’n gyson i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y diwydiant sy’n newid drwy’r adeg. MWY
RHAGLEN DATBLYGU HYFFORDDWYR
Cyfle i gael profiad gwerthfawr ac ennill cymwysterau ychwanegol ar ein rhaglen datblygu hyfforddwyr. Sylwer – mae’n rhaid i chi fod ag un cymhwyster hyfforddi i fod yn gymwys am y rhaglen hwn. YMGEISIO NAWR
DIGWYDDIADAU CORFFORAETHOL A MEITHRIN TÎM
Mae ein lleoliad ysbrydoledig, ein cyfleusterau modern a’n gallu i gynnig amrywiaeth helaeth o weithgareddau antur yn golygu bod Plas Menai’n lleoliad cwbl unigryw ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a meithrin tîm. MWY
Os hoffech chi siarad gyda rhywun am unrhyw un o raglenni’r Academi Awyr Agored, cysylltwch â Gemma Brook ar gemma.brook@sport.wales neu ffoniwch ar 01248 673 937