Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.
Cyfle i ddatgloi cyfrinachau rhwyfo ym Mhwll Ceris a datblygu eich sgiliau rhwyfo a’ch hyder yn y pyllau tro, y tonnau a’r rasys yn y dŵr heriol ond rhyfeddol yma.
Mae’r penwythnos yn cynnwys dadansoddiad llanwol cynhwysfawr fel eich bod wir yn deall sut mae amodau’n newid a byddwn yn eich cyflwyno i’r llecynnau gorau ar gyfer chwarae i mewn ar lanw a thrai.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich addasrwydd ar gyfer y cwrs yma neu unrhyw ymholiad technegol, cofiwch anfon e-bost at Huw Jones huw.jones@sport.wales. Bydd Huw yn ceisio ateb eich e-bost cyn gynted â phosib.
Y Camau Nesaf: Os ydi’r penwythnos yma wedi codi awydd arnoch chi i herio’ch hun ar ddŵr cyflym, edrychwch ar ein penwythnos Rasys Llanwol a Rhaeadrau a fydd yn rhoi llawer mwy i chi o’r math yma o rwyfo. Ewch amdani!
Y Deunydd Darllen a Argymhellir
Rough Water Handling - Doug Cooper
Nid ydym yn stocio’r cyhoeddiad yma ar hyn o bryd. Er hynny, mae ar gael i’w brynu’n uniongyrchol gan Pesda Press ac o siopau eraill.