Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.
Dyma gwrs ar gyfer y rhai sydd eisiau gyrru cychod pŵer mwy, a mwy pwerus, ar ddyfroedd arfordirol. Bydd y cwrs ymarferol yma’n adeiladu ar eich sgiliau gyrru presennol ac yn datblygu eich sgiliau trin cwch pŵer mewn amodau mwy heriol. Bydd hefyd yn rhoi sylw i lunio llwybr a mordwyo ac yn rhoi cyngor ac awgymriadau ymarferol i chi ar beth i’w wneud mewn sefyllfa o argyfwng.
Erbyn diwedd y penwythnos dylech fod â sgiliau i gynllunio a gweithredu llwybr arfordirol byr yn ystod y dydd yn hyderus.
Pwyntiau dysgu allweddol: Cynllunio diwrnod yn morio, paratoi cwch, trin cwch, peilota, llunio llwybr, achub person sydd wedi syrthio i’r dŵr
Y Deunydd Darllen a Argymhellir
RYA Powerboat Logbook (G20)