Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.
Bydd y cwrs gyrru cychod pŵer uwch hwn yn meithrin eich hyder a’ch sgiliau i ymgymryd â llwybrau arfordirol mwy heriol yn ystod y dydd a’r nos. Yn ystod y penwythnos byddwch yn rhoi sylw i fordwyo ar gyflymder plaenio, y tywydd ac agweddau eraill ar fod yn gapten ar gwch pŵer, yn ogystal â gyrru llwybr yn ystod y nos.
Pwyntiau dysgu allweddol: Paratoi ar gyfer y môr, trin cwch, llunio llwybr a chyfrifoldebau fel capten, peilota, meteoroleg, rheolau’r ffordd, defnydd o injan, sefyllfaoedd brys a morio yn ystod y nos.
Cymeradwyaeth Fasnachol – Ni ellir cymeradwyo’r dystysgrif hon yn fasnachol. Os oes arnoch angen y gymeradwyaeth fasnachol, bydd rhaid i chi fynd ymlaen i gwblhau’r Dystysgrif Medrusrwydd Cwch Pŵer Uwch (arholiad). Os ydych yn dymuno sefyll yr arholiad, cofiwch gysylltu ar info@plasmenai.co.uk neu ffoniwch yr adran archebu ar 0300 300 3113 a byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu dyddiad.
Y Deunydd Darllen a Argymhellir
RYA Powerboat Logbook (G20)