Cookies dangos mwy o

Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.     

Mae’r cwrs RYA Cymorth Cyntaf undydd yma’n cynnwys yr holl bynciau cymorth cyntaf arferol ac yn darparu gwybodaeth ymarferol am y rhain o bersbectif pobl sy’n mynd mewn cychod, ac mae ar gyfer unrhyw un sy’n mynd ar y dŵr.       

Mae hefyd yn bodloni’r gofynion ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ennill y cymwysterau proffesiynol canlynol sy’n gofyn am ddal tystysgrif cymorth cyntaf ddilys:

RYA Hyfforddwr Dingi, RYA Hyfforddwr Gwyntsyrffio, RYA Hyfforddwr Cychod Pŵer, RYA Uwch Hyfforddwr 

Pwyntiau dysgu allweddol: cymorth cyntaf sylfaenol a phynciau penodol i fynd mewn cychod, sy’n cynnwys; ystum adfer mewn gofod cyfyng, CPR gan gynnwys protocol boddi, sioc oerni a hypothermia o fod mewn dŵr / agos at ddŵr, salwch môr a dadhydradu, cymorth meddygol neu gyngor drwy VHF ac achub mewn hofrennydd.

Yn ystod y cwrs byddwch yn cael rhifyn diweddaraf y llawlyfr Cymorth Cyntaf, i’w gadw.              


← Yn ôl i Theori

 

Gwybodaeth am y Cwrs

Hyd: 1 diwrnod

Amser: 09.15-17.00

Safonau gofynnol: Dim

Oedran gofynnol: 16 oed

Archebu Nawr