Cookies dangos mwy o

Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.     

Mae hwyl a chyffro’n eich aros ar bob cornel yn ystod y penwythnos bythgofiadwy yma o fwrlwm ac antur.

Dyma ffordd wych o roi hwb i’ch ffitrwydd a chreu atgofion anhygoel. Mae’r penwythnos yma’n gyfle perffaith i roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o weithgareddau anturus a dysgu sgiliau newydd gan gryfhau cwlwm a pherthnasoedd teuluol ar yr un pryd.                                     

Bydd ein hyfforddwyr hynod gyfeillgar ac ymroddedig yn eich arwain chi a’ch teulu bob cam o’r ffordd wrth i chi roi cynnig ar weithgareddau fel hwylio, gwyntsyrffio, rhwyf-fyrddio, caiacio, canŵio, dringo creigiau, beicio mynydd a llawer mwy.                

Ychwanegwch y pecyn preswyl a does dim rhaid poeni wedyn am chwilio am lety a threfnu prydau bwyd. Mae’r pecyn yn cynnwys llety en-suite, brecwast mawr yn danwydd ar gyfer eich diwrnod, pecyn bwyd i ginio i’ch cadw chi i fynd, a phryd gyda’r nos blasus.        

A does dim angen unrhyw offer na chit arbenigol chwaith. Rydyn ni’n darparu cymhorthion arnofio, siwtiau gwlyb, helmedau a dillad dal dŵr. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw; dillad nofio, tywel, esgidiau ar gyfer mynd ar y dŵr a dillad cynnes.          

Felly archebwch nawr a bydd antur fawr yn aros amdanoch chi. 

← Yn ôl

Gwybodaeth am y Cwrs

Hyd: 2 Ddiwrnod

Amser: 0915-1700

Safonau gofynnol: Dim

Oedran Gofynnol: 8oed

Archebu Nawr