Cookies dangos mwy o

Fel y rhan fwyaf o wefannau rydyn ni’n defnyddio cwcis. Er mwyn darparu gwasanaeth personol, ymatebol ac i wella’r safle, rydyn ni’n cofio ac yn storio gwybodaeth am sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffeiliau testun syml o’r enw cwcis sydd ar eich cyfrifiadur. Mae’r cwcis yma’n gwbl ddiogel ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth sensitif fyth. Dim ond gennym ni maen nhw’n cael eu defnyddio.     

Ar gyfer y rhai ohonoch chi sydd wedi bod yn dod i sesiynau Dreigiau Menai ers cryn dipyn o amser ac sydd eisiau symud ymlaen i hwylio neu wyntsyrffio, Sgwad Dreigiau Menai ydi’r lle i chi.                

Mae’r sgwad yn datblygu ac yn mireinio eich sgiliau chi mewn naill ai hwylio neu wyntsyrffio mewn amgylchedd hwyliog a chyfarwydd. Mae’n gam ymlaen o’r Clwb Gweithgareddau Sadwrn ac mae disgwyl i chi gymryd rhan yn y diwedd mewn cystadlaethau lleol a rhanbarthol fel rhan o #TeamMenaiDragons


Y Camu Nesaf: Yn mynychu digwyddiadau CRYC a Gŵyl Onboard flynyddol Gogledd Cymru fel rhan o #TeamMenaiDragons

← Yn ôl i Dreigiau Menai

 

Gwybodaeth am y Cwrs

Dydd Sul

Hyd: 1 diwrnod

Amser: 0915-17.00

Safonau Gofynnol: Rhaid i chi allu hwylio o amgylch cwrs triongl 

Oedran Gofynnol: 10 oed.

Pris: £16.50 y sesiwn a archebir mewn blociau misol. Felly penderfynir ar y pris gan nifer y Suliau ym mhob bloc misol.

Archebu Nawr